Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Amaethyddiaeth

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01575
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno dros 3 diwrnod (2 ddiwrnod o ddysgu gweithredol ac 1 diwrnod o hunan-astudio) am 2 flynedd ar gyfer HND llawn amser ac 1.5 diwrnod (1 diwrnod o ddysgu gweithredol a 0.5 diwrnod o hunan-astudio) am 4 blynedd HND rhan-amser. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb ar ein campws yn Llysfasi.
Adran
Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth Fanwl Gywir
Dyddiad Dechrau
01 Aug 2025
Dyddiad gorffen
31 Jul 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Diploma Cenedlaethol Uwch Lefel 5 BTEC Pearson mewn Amaethyddiaeth (Cyffredinol)

Wrth ddewis HND Cambria mewn Amaethyddiaeth byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau, gan roi sylfaen eang o wybodaeth i chi yn ymwneud ag agweddau amrywiol ac allweddol o’r sector. Caiff y rhaglen hon ei chynllunio i gysylltu â chyfleoedd gyrfa posibl o fewn y sector a helpu i hwyluso eich dilyniant i gyflogaeth neu astudiaeth bellach.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol, a thiwtorialau rhyngweithiol, siaradwyr gwadd a gweithdai. Bydd y dysgu yn gyfunol, gan gyfuno addysgu ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb.

Prif nodweddion astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Cambria:
● Cyfleusterau rhagorol.
● Mynediad i’r fferm fasnachol 1000 erw er mwyn dysgu sgiliau ymarferol.
● Mae dysgwyr yn elwa o gael mentrau llaeth, sugno a defaid ar y safle.
● Tiwtor personol a chymorth un i un.

BETH FYDDAI’N EI ASTUDIO?
Bydd graddedigion sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill set sgiliau amrywiol sy'n addas ar gyfer yr ystod eang o gyfleoedd yn y diwydiant amaethyddiaeth. Mewn sector hynod gystadleuol, bydd myfyrwyr Cambria yn cael eu harfogi i fynd i mewn i’r sector gwaith gydag amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy ac ymarferol yn y diwydiant ar gyfer gyrfa mewn rheoli fferm, agronomeg, a pheirianneg amaethyddiaeth i enwi dim ond rhai.


Modiwlau Blwyddyn 1

Amgylchedd Busnes a Busnes
Cyfrif Rheoli
Rheoli Prosiect Llwyddiannus
Egwyddorion Cynhyrchu Da Byw
Iechyd a Lles Anifeiliaid
Egwyddorion Cynhyrchu Cnydau
Peirianneg a Thechnoleg y Tir
Gweinyddu Busnesau Gwledig a Chyfrifyddu

Modiwlau Blwyddyn 2

Cyfrifeg Ariannol Uwch
Prosiect Ymchwil
Cynhyrchu a Rheoli Porthiant
Geneteg a Bridio Anifeiliaid
Iechyd Planhigion a Chnydau (Clefydau, Plâu a Chwyn)
Rheoli’r Amgylchedd a Chadwraeth
Technology Rheoli Peiriannau a Thechnoleg y Tir

Yn ogystal â’r unedau theori uchod mae gan fyfyrwyr diwtorialau pwrpasol, sesiynau sgiliau astudio a sesiynau ymarferol i gefnogi eu hastudiaethau yn rhagor.
Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth neu bwnc perthnasol sy’n ymwneud â’r tir neu brofiad perthnasol yn y diwydiant

HNC mewn Amaethyddiaeth

Caiff yr HND ei asesu gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, adeiladu portffolio a dyddlyfrau. Mae asesiadau yn feini prawf hanfodol o bob modiwl.
Ar ôl cwblhau’r cwrs HND yn llwyddiannus yng Ngholeg Cambria gall dysgwyr symud ymlaen i astudio Gradd Baglor gysylltiedig gyda darparwr AU arall. Fel arall bydd y dysgwr wedi’u harfogi’n dda ar gyfer y gyrfaoedd canlynol:

Rheolwr Fferm / Rheolwr Fferm Cynorthwyol
Ffermwr
Swyddog Amaethyddol
Cynrychiolydd Gwerthiannau Technegol
Rheolwr Buches
Bugail

Llawn Amser – £5000 y flwyddyn
Rhan Amser – £2500 y flwyddyn

Dylai’r holl fyfyrwyr sicrhau bod ganddynt yr offer ysgrifennu perthnasol ar gyfer y cwrs a gan fod peth o’r cwrs yn cael ei gwblhau ar fferm y coleg, bydd angen i’r dysgwr brynu’r eitemau sydd ar y Rhestr Cit canlynol cyn dechrau’r cwrs:

Welingtons gyda blaen dur
Trowsus glaw gwrth-ddŵr (awgrymir math Flexothane)
Cot law gwrth-ddŵr
Esgidiau diogelwch
Dau bâr o oferôls

Defnyddiwch Goleg Cambria fel y Sefydliad ar eich cais Cyllid Myfyrwyr.

Gellir prynu’r eitemau uchod o’r rhan fwyaf o gyflenwyr amaethyddol. Gellir archebu oferôls glas tywyll gyda logo Coleg
Cambria o flaen llaw a’u danfon i Lysfasi o Workplace Worksafe yn Rhuthun.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?