Diploma Lefel 1 mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs wedi’i lunio fel cyflwyniad i'r sectorau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau sylfaenol yn yr unedau gorfodol, a fydd yn eu helpu o ddydd i ddydd. Mewn unedau meysydd penodol, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn Chwaraeon Actif, Rolau Hyfforddi a Ffitrwydd Ymarferol gan gynnwys Gweithgareddau Awyr Agored.
Bydd arbenigwyr yn y diwydiant yn rhannu eu gwybodaeth a'u profiad o weithio yn y Gwasanaeth Cyhoeddus.
Bydd datblygiad Llythrennedd a Rhifedd yn ffocws craidd i bob dysgwr ar y rhaglen gyda phob dysgwr yn cael y cyfle i sefyll cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ailsefyll TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.
Bydd Anogwr Cynnydd yn cael ei bennu i ddysgwyr a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn cael ei roi ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a all godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen i'w helpu i lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i ddiwallu anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.
Cyflwynir y rhaglen dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o ddarpariaeth ystafell ddosbarth ac ymarferol dan do ac awyr agored.

Asesiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, cynllunio a threfnu, arsylwadau.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg neu Gymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg
I ddysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o raglen Mynediad – mae’n rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster M3, wedi symud ymlaen mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg ac wedi cyrraedd pob un o’r targedau yn eich Cynllun Datblygu Unigol.
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Gallwch symud ymlaen i gwrs Lefel 2 perthnasol yr un maes, Twf Swyddi Cymru+, prentisiaeth neu waith.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.