Trosolwg o’r Cwrs

Mae Llwybr 2 ar gyfer dysgwyr sy'n anelu at arwain bywydau lled annibynnol pan fyddan nhw’n gadael y coleg ond a fydd angen cymorth parhaus i ddatblygu a chynnal eu hannibyniaeth, chwarae rhan weithredol yn y gymuned ac unrhyw amgylchedd gwaith.

Bydd dysgwyr ar raglenni Llwybr 2 yn dilyn cwricwlwm amrywiol sy’n cynnwys:

*Iechyd a Llesiant
*Cynhwysiad Cymunedol
*Sgiliau Byw’n Annibynnol
*Sgiliau Cyflogadwyedd
*Sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol

Mae cynllunio gyda’r nod terfynol mewn golwg yn allweddol i bob dysgwr.

Bydd yr holl weithgareddau ar y rhaglen hon yn cael eu cynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth berthnasol i ddysgwyr ar gyfer eu taith unigol.

Bydd dysgwyr yn:

*Yn cael cyfnod pontio llawn i’r rhaglen. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn diwedd mis Ebrill fel ein bod ni’n gallu cynnig cyfnod pontio trylwyr a helaeth i'r coleg i bob dysgwr.
*Yn ymgymryd ag asesiad cychwynnol a chyfnod ymsefydlu.
*Bydd ganddyn nhw amserlen unigol sy’n gysylltiedig â’u targedau penodol i gynorthwyo cynnydd tuag at eu nod terfynol.
*Cymryd rhan mewn adolygiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn eu targedau unigol a chytuno ar y camau nesaf.

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer rhaglenni SBA erbyn diwedd mis Ebrill fel ein bod ni’n gallu cynnig cyfnod pontio trylwyr a helaeth i'r coleg i bob dysgwr.
Mae gan bob myfyriwr Gynllun Dysgu Unigol sy’n cofnodi eu nodau a’u targedau unigol. Bydd myfyrwyr yn cael cymorth un i un yn rheolaidd gan eu tiwtor personol i adolygu eu cynnydd. Mae targedau unigol yn sicrhau bod myfyrwyr yn symud ymlaen i gyrraedd eu nodau tymor hir.

Mae pob dysgwr yn cael ei gefnogi gan Anogwr Cynnydd a fydd yn cyfarfod â dysgwyr yn rheolaidd i’w cefnogi gyda’u hanghenion bugeiliol ac yn gweithredu fel eiriolwr ar gyfer dysgwyr.
Mae’r cwrs Cyn Mynediad hwn wedi’i anelu at ymgeiswyr ag anawsterau dysgu difrifol neu gymhleth, neu anawsterau dysgu cymedrol .

Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gweithio tuag at gymhwyster Mynediad 1.

Byddwn ni’n ystyried pob cais yn unigol a bydd unrhyw gynnig yn dibynnu ar gyfweliad ac ystod o dystiolaeth atodol, gan gynnwys cyflawniadau blaenorol ac asesu anghenion cymorth.

Rydyn ni’n gofyn i bob ymgeisydd ddod i sesiwn rhagflas fel rhan o’r broses ymgeisio, i gadarnhau eu haddasrwydd, eu gallu a’u hanghenion cymorth ychwanegol.

Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn Gynllun Addysg (CDU neu Gynllun Gofal Iechyd Addysgol) sy’n nodi eu hanghenion dysgu ychwanegol. Caiff pob cynllun ei adolygu gan ein Panel Cynhwysiant cyn i unigolion gael lle ar raglen.

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer rhaglenni SBA erbyn diwedd mis Ebrill fel ein bod ni’n gallu cynnig cyfnod pontio trylwyr a helaeth i’r coleg i bob dysgwr.
Efallai bydd yn bosibl symud ymlaen o’r cwrs hwn i raglen Llwybr 3.

Mae’r cwrs hefyd yn cynorthwyo gyda symud ymlaen i gael rhagor o annibyniaeth, byw â chymorth a nifer o gyd-destunau gwaith amrywiol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?