Cwrs ymgysylltu i'r Niwroamrywiol

Rhestr Fer

  • Cliciwch ‘Ychwanegu y Rhestr Fer’, er mwyn dechrau adeiladu eich rhestr o bynciau a chyrsiau y gallwch chi eu hadolygu a gwneud cais i’w hastudio.
Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01626
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser, blwyddyn o hyd.
Adran
Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs Ymgysylltu i’r Niwroamrywiol yn gynhwysol gyda chefnogaeth lawn. Mae’n darparu amgylchedd dysgu sy'n gweddu orau i ddysgwyr ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i fodloni anghenion a galluoedd y rhai sy'n gadael yr ysgol a fyddai'n cael trafferth cael mynediad i'r coleg drwy'r llwybr prif ffrwd draddodiadol.

Mae ein rhaglenni i’r rhai Niwroamrywiol yn mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â sgiliau cyfathrebu cymdeithasol. Nod y rhaglenni yw goresgyn y rhwystrau hyn er mwyn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i addysg bellach prif ffrwd neu i waith/cyflogaeth yn eu sector dewisol.

Bydd y rhaglen yn cynnwys:

*Rhaglen un flwyddyn a gaiff ei harwain gan nod penodol: gwaith/cyflogaeth, interniaeth â chymorth neu symud ymlaen i addysg bellach prif ffrwd yn unol â chanlyniadau CAIG/CDU
*Bydd y ddarpariaeth graidd o bynciau yn canolbwyntio ar helpu dysgwyr i nodi llwybr gyrfa addas a bydd yn cael ei wahaniaethu i ddiwallu anghenion dysgwyr ar eu lefel ddysgu sydd wedi’i nodi. Bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i'r gwahanol feysydd pwnc i roi blas iddynt fel y gallant symud ymlaen i'r cwrs o'u dewis y flwyddyn ganlynol.
*Bydd y rhaglen yn cynnwys cyflwyno Sgiliau Bywyd a bydd yn elfen greiddiol o'r rhaglen: Cyflogadwyedd, Iechyd a Llesiant, Gwaith Cymunedol a Sgiliau Byw'n Annibynnol
*Bydd sesiynau blasu diwydiannol grŵp yn cael eu cynnwys yn y rhaglen er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol mewn amgylchedd gwaith go iawn
*Bydd dysgwyr yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Mathemateg a Saesneg ar eu lefel waith
*Cefnogir y rhaglen yn llawn
*Trosglwyddo personol trwy fentor anhwylderau’r sbectrwm awtistig
*4 diwrnod yr wythnos wedi’i leoli yn y coleg
*Ystafell ddosbarth bwrpasol - dim mwy na 10 o ddysgwyr mewn dosbarth
*Wedi’i leoli yn Iâl
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Accessibility Tools