Lefel 4 mewn Cyfrifeg

Rhestr Fer

  • Cliciwch ‘Ychwanegu y Rhestr Fer’, er mwyn dechrau adeiladu eich rhestr o bynciau a chyrsiau y gallwch chi eu hadolygu a gwneud cais i’w hastudio.
Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
MY10208
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, Medi i Fehefin. Ar ddydd Mercher 13.00 – 19.30 yn Iâl
Adran
Cyfrifeg, Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y cymhwyster hwn yw adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y cwrs lefel canolradd. Byddwch chi’n dysgu am sgiliau arwain tîm cyllid, gan gynnwys datganiadau ariannol ar gyfer cwmnïau cyfyngedig, sgiliau rheoli cymhleth a meysydd dysgu arbenigol.
Ar ôl gorffen y cwrs, byddwch chi’n aelod cysylltiedig o’r AAT yn awtomatig. Gyda phrofiad gwaith perthnasol, bydd yn gymwys ar gyfer aelodaeth lawn yr AAT.

Bydd y lefel uwch yn addas i chi:
● Os ydych chi wedi cwblhau cwrs cyfrifeg lefel canolradd, ac yn dymuno ychwanegu at eich sgiliau
● Os ydych chi’n gweithio ym maes cyllid yn barod, ac yn dymuno cael cydnabyddiaeth ffurfiol o’ch sgiliau
● Os hoffech chi fod yn aelod llawn o AAT, neu astudio ar gyfer statws siartredig

RHEOLI CYFRIFEG CYMHWYSOL
● Deall proses cynllunio’r sefydliad a’i rhoi ar waith
● Defnyddio prosesau mewnol i gynyddu rheolaeth weithredol
● Defnyddio technegau i helpu gwneud penderfyniadau byr dymor
● Dadansoddi ac adrodd ar berfformiad y busnes

DRAFFTIO A DEHONGLI DATGANIADAU ARIANNOL
● Deall y fframweithiau adrodd sy’n sylfaen i adroddiadau ariannol
● Drafftio datganiadau ariannol statudol ar gyfer cwmnïau cyfyngedig
● Drafftio datganiadau ariannol cyfunol
● Dehongli datganiadau ariannol trwy ddadansoddi cymarebau

SYSTEMAU CYFRIFEG MEWNOL A RHEOLAETHAU
● Deall swyddogaeth a chyfrifoldebau'r adran gyllid mewn sefydliad
● Gwerthuso systemau costau mewnol
● Gwerthuso system cyfrifo a gweithdrefnau greiddiol sefydliad
● Deall effaith technoleg ar systemau cyfrifeg
● Awgrymu gwelliannau ar gyfer system cyfrifeg sefydliad

UNEDAU ARBENIGOL
RHEOLI ARIAN AC ARIANNOL
● Paratoi rhagfynegiad ar gyfer derbynebau a thaliadau arian
● Paratoi cyllideb arian parod a monitro llif arian
● Deall pwysigrwydd rheoli cyllid a hylifedd
● Deall ffyrdd o gynyddu cyllid a buddsoddi arian
● Deall rheoliadau a pholisïau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch rheoli arian a chyllid

RHEOLI CREDYD A DYLED
● Deall deddfwriaethau a chyfreithiau contract perthnasol sy’n effeithio ar yr amgylchedd rheoli credyd
● Deall sut mae gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio i asesu risg credyd a chytuno ar gredyd yn unol â pholisïau a Gweithdrefnau’r sefydliad
● Deall y gwahanol dechnegau sydd ar gael i gasglu dyledion
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Accessibility Tools