Defnyddio torrwr prysgoed / strimiwr yn ddiogel

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA16894
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Rhan Amser, 1 diwrnod
Adran
Coedwigaeth a Chefn Gwlad
Dyddiad Dechrau
01 Aug 2025
Dyddiad gorffen
30 Jul 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Gall trimwyr/torwyr prysgwydd fod yn effeithiol iawn mewn sefyllfaoedd/daear lletchwith, ond mae ganddynt hefyd y potensial i fod yn un o'r peiriannau mwyaf peryglus. Rhaid i unrhyw un sy’n eu defnyddio fod yn ymwybodol o'r angen am ddillad diogelu cywir, gwaith cynnal a chadw cywir ac ymlynu wrth weithdrefnau gweithredu diogel. Rhaid hefyd ystyried ffactorau amgylcheddol yn yr amgylchedd gwaith modern. Mae'r cwrs hwn yn esbonio’r ystyriaethau diogelwch, arweiniad ynghylch y ffordd orau o gynnal amgylchedd gwaith diogel, a dealltwriaeth o'r ffyrdd gorau o weithio.

Amcanion y cwrs:
Ar ôl cwblhau cwrs hyfforddiant Dyfarniad Lefel 2 NPTC mewn Defnyddio Trimwyr a Thorwyr Prysgwydd a yn Ddiogel, byddwch yn gallu:

• Cynhyrchu Asesiad Risg safle-benodol ar gyfer defnyddio trimwyr a thorwyr prysgwydd.
• Nodi'r offer diogelu personol angenrheidiol sydd ei angen
• Nodi'r nodweddion iechyd a diogelwch sydd eu hangen ar drimiwr a thorrwr prysgwydd
• Nodi diffygion ar drimiwr / torrwr prysgwydd ac offer torri a phenderfynu pa rai y gall y rhai sy’n eu defnyddio eu trwsio a pha rai sydd angen sylw peiriannydd gwasanaeth
• Cynnal yr holl waith cynnal a chadw rheolaidd yn gywir yn unol â llyfr cyfarwyddiadau gwneuthurwr y peiriant a/neu'r llyfr gwaith hwn
• Paratoi’r trimiwr / torrwr prysgwydd i'w ddefnyddio gyda'r cymysgedd cywir o danwydd/olew
• Cychwyn y trimiwr / torrwr prysgwydd o ddechrau poeth ac oer mewn modd diogel
• Cynnal gwiriadau cyn torri
• Nodi’r peryglon/risgiau posibl wrth gyflawni tasgau cynnal a chadw neu weithredol
• Cynnal a chadw’r trimiwr / torrwr prysgwydd a’r torwyr pennau mewn cyflwr gwaith diogel ac effeithlon
• Addasu'r trimiwr / torrwr prysgwydd i’w ddefnyddio mewn modd diogel a chyfforddus
• Dewis y pen torri cywir ar gyfer yr amodau gweithredu perthnasol
• Gweithredu'r trimiwr / torrwr prysgwydd mewn modd diogel gan ystyried diogelwch y cyhoedd, eiddo a ffactorau amgylcheddol
• Trefnu’r safle a defnyddio dull systematig o weithio lle bo modd



Sesiynau’r cwrs:
● Paratoi i ddefnyddio Trimwyr a Thorwyr Prysgwydd
● Cynnal a chadw’r Trimiwr/Torrwr Prysgwydd
● Cynnal a chadw’r injan
● Defnyddio’r Trimiwr /Torrwr Prysgwydd.
Hyfforddiant ac Asesiad Integredig
Math o asesiad:
Asesiad mewnol a dilysiad allanol
Garddwriaeth, Tirlun a Meysydd Chwaraeon
Trimwyr, Torwyr Prysgwydd a Llifau Clirio
£280

I gael dyddiadau’r cwrs ac i archebu lle, cysylltwch â Choleg Cambria ar 03003030006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?