Sicrhawyd 11 i gyd – tri aur, pump arian a thri efydd.
Yn ennill y medalau aur oedd Jo Arrowsmith ar gyfer Melino CNC, Oliver Evans (Aircamo Aviation Ltd) ar gyfer Peirianneg Awyrennau a’r ymgeisydd Gwaith Metel yn y Diwydiant Adeiladu, James Noller.
Hefyd yn cyrraedd y podiwm oedd: Tomos Roberts (CNC Milling), Mark Wright (Weldio), Dylan Fullard a Kyle Gray-Owen (Diogelwch Rhwydweithiau TG), Rhys Mahoney (Technegydd Cymorth TG), Harrison Sherlock a Callum Davies (Peirianneg Awyrennau), a Brooklyn Jones (Gwaith Metel yn y Diwydiant Adeiladu).
Roedd hyd at 30 o gynrychiolwyr Cambria wedi derbyn ‘Canmoliaeth Uchel’ am gyflawni graddau uwchben y cyfartaledd cenedlaethol a’r coleg oedd y ‘Gorau yn y Rhanbarth’ yng Ngogledd Cymru ar gyfer Melino CNC.
Roedd Arweinydd y Gystadleuaeth Sgiliau, Robert Jones yn falch o’r dysgwyr am “eu gwaith caled a’u hymrwymiad” wrth gyfuno gwaith academaidd gyda phrentisiaethau a gofynion y gystadleuaeth sef menter wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gydlynu gan Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.
“Dyma ni’n mynd â grŵp o tua 120 o ddysgwyr i Gystadleuaeth Sgiliau Cymru ac roedden nhw i gyd yn glod i Goleg Cambria,” meddai Robert.
“Roedd yn gyrhaeddiad anhygoel i ennill medalau wrth ystyried nifer y myfyrwyr a phrentisiaid ledled y wlad a oedd wedi cymryd rhan.
“Maen nhw i gyd wedi ennill profiad hanfodol, nid yn unig yn eu disgyblaethau o ddewis ond hefyd mewn ymdopi gyda phwysau, rheoli amser a datblygu sgiliau trosglwyddadwy a mwy.”
Ychwanegodd: “Hoffem ddiolch yn fawr iddyn nhw, ein partneriaid yn y diwydiant a’r holl staff a darlithwyr sydd wedi ein cefnogi ar hyd y daith.”
Roedd canmoliaeth yn arbennig hefyd i’r hyfforddwyr Adam Youens, Carl Parrish, Anthony Commins, Simon Prince, Robert Barlow a Jamie Mapp-Jones – gyda’u holl fyfyrwyr yn ennill medalau.
Meddai Paul Evans, Cyfarwyddwr y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau Cymru: “Sgiliau yw sylfaen economi lewyrchus ac mae cystadlaethau fel hyn yn chwarae rôl allweddol mewn datblygu talent, codi safonau a pharatoi unigolion ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus.
“Llongyfarchiadau i’r holl gystadleuwyr am groesawu’r her hon ac anelu am ragoriaeth yn eich meysydd perthnasol.”
Mae grŵp Cambria wedi cystadlu yn erbyn cannoedd o fyfyrwyr o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Sir Gâr, Coleg Y Cymoedd a Choleg Ceredigion, Coleg Y Gŵyr Abertawe a Choleg Sir Benfro yng Nghampws Casnewydd o Brifysgol De Cymru.
Am fwy o wybodaeth am Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a’r digwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i’r wefan Cystadleuaeth Sgiliau Cymru – Cystadleuaeth Sgiliau Cymru neu dilynwch @ISEinWales ar Twitter (X) ac Instagram.