Background Splash

Gan Alex Stockton

schoolsanalyst

Roedd deuawd dalentog o Goleg Cambria – sydd â safleoedd yn Llaneurgain, Llysfasi, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam – yn rhan o dîm buddugol Chweched Iâl oedd yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Dadansoddwr Ifanc y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Cwblhaodd y dysgwyr Blwyddyn 12 Grace Shore a Megan Roberts gyfres o dasgau a heriau i ddod yn fuddugol ymhlith eu carfan yn y coleg.

Ymunwyd â nhw gan 10 o fyfyrwyr eraill o Chweched Iâl yn rhagras ranbarthol Gogledd Orllewin y gystadleuaeth.

Roedd Nora Richardson, darlithydd Cemeg ac Arweinydd Cwricwlwm yn Chweched Iâl, yn “falch iawn” o’u cyflawniad.

“Roedden ni wrth ein boddau bod pedwar tîm wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth, gan ennill profiad gwerthfawr o ddatrys problemau a sgiliau technegol,” meddai.

“Fe wnaethon nhw gwblhau tair her ymarferol newydd a osodwyd gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 12 i’w hannog i ddatblygu sgiliau ymarferol annibynnol a dadansoddi a gwerthuso canlyniadau.

“Fe wnaethon ni fwynhau gweithio gyda’r holl fyfyrwyr yn y gystadleuaeth hon ac rydyn ni’n hynod falch ohonyn nhw i gyd, fe wnaethon nhw mor dda.”

Mae’r Gystadleuaeth Dadansoddwr Ysgolion yn galluogi myfyrwyr ledled y DU i ddangos ac ehangu eu gwybodaeth bresennol am wyddoniaeth, a’u sgiliau a’u gallu mewn gwyddoniaeth ddadansoddol trwy arbrofion dadansoddol ymarferol sy’n seiliedig ar broblemau cymdeithasol neu ddiwydiannol perthnasol.

Nod pob cystadleuaeth yw darparu rhai tasgau sy’n gymharol gyfarwydd i’r myfyrwyr megis titradiadau, ac eraill sy’n debygol o fod yn anghyfarwydd, megis gwahaniadau cromatograffig mwy cymhleth.

Am ragor am gystadleuaeth y Schools’ Analyst | RSC Education, ewch i’r wefan.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost