main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

14/11/2024
Rydym yn gwahodd pobl niwroamrywiol sydd eisiau astudio yn Cambria i ddod i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Deeside Sixth form with logo

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch ym mis Tachwedd.

Byddwch yn gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod â’n staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein holl gymorth cynhwysiant a dysgu.

Dewch i’n gweld ni yn ein Digwyddiadau Agored lle gallwch chi:

  • Ddarganfod beth sydd ar gael
  • Archwilio ein cyfleusterau o’r radd flaenaf
  • Siarad â’n tiwtoriaid arbenigol
  • Cael ateb i’ch holl gwestiynau
  • Cyfarfod ein myfyrwyr presennol
  • Gwneud cais am gwrs

I wneud y mwyaf o’r amser sydd ar gael, rydyn ni’n argymell eich bod yn cyrraedd 5.00pm.

Mae nifer y tocynnau yn gyfyngedig ar gyfer y digwyddiadau hyn i’ch galluogi chi i fwynhau’r digwyddiad agored mewn amgylchedd cyfeillgar synhwyraidd heb heidiau o bobl.

Mae dyddiadau ein Digwyddiadau Agored Hygyrch eraill fel a ganlyn:

Iâl / Chweched Iâl – Nos Fercher 20 Tachwedd – 5:00pm tan 6:00pm

Ffordd y Bers – Nos Iau 21 Tachwedd – 5:00pm tan 6:00pm

Northop – Nos Fercher 27 Tachwedd – 5:00pm tan 6:00pm

Llysfasi – Nos Iau 28 Tachwedd – 5:00pm tan 6:00pm

Gallwch chi gadw eich lle cyn y dyddiadau yma ac yn y cyfamser gallwch chi weld ein hawgrymiadau ar gyfer Digwyddiadau Agored!

Rydyn ni’n cynnal ein prif Ddigwyddiadau Agored ar y dyddiadau isod:

Glannau Dyfrdwy / Chweched Glannau Dyfrdwy – Nos Fercher 6 Tachwedd – 5pm tan 8pm

Llysfasi – Dydd Sadwrn 9 Tachwedd – 10am tan 1pm

Iâl / Chweched Iâl / Ffordd y Bers – Nos Fercher 13 Tachwedd – 5pm tan 8pm

Llaneurgain – Dydd Sadwrn 16 Tachwedd – 10am tan 1pm