Mae’n dymor i fod yn llon, felly ewch i ysbryd yr ŵyl a mwynhewch awyrgylch y Nadolig eleni ym Marchnad Nadolig Ffordd y Bers Coleg Cambria! Dewch i weld y stondinau tymhorol a’r faniau bwyd mewn diwrnod llawn hwyl Nadoligaidd yn safle Ffordd y Bers Coleg Cambria.
Byddwch chi’n siŵr o gael amser gwych, felly dewch â’r teulu, bwytwch, siopwch a byddwch lawen yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn sy’n cynnwys y gorau sydd gan ein cynhyrchwyr a’n busnesau lleol i’w gynnig. Ble well i wneud ychydig o siopa Nadolig nag yn ein marchnadoedd Nadolig Cambria?
Gyda dros 20 o stondinau yn cynnig amrywiaeth o anrhegion ac addurniadau Nadolig, mae’n ffordd berffaith o ddod o hyd i anrheg unigryw i deulu, ffrindiau neu anwyliaid dros yr ŵyl. Cymerwch seibiant o siopa a thrîtiwch eich hun i win cynnes, neu fwyd blasus gan un o’n gwerthwyr, a fydd yn gweini cymysgedd o fwyd stryd, pizza a llawer rhagor.
Mae’r holl gyflenwyr a gwerthwyr yn y marchnadoedd yn dod o’r ardal leol a fydd yn rhoi cyfle iddyn nhw ddangos a gwerthu eu cynhyrchion a’u gwasanaethau. Bydd ymweliad arbennig gan Siôn Corn i siarad â phlant a darganfod beth maen nhw ei eisiau ar gyfer y Nadolig a’u helpu i deimlo hwyl yr ŵyl.
Bydd cyfle hefyd i fynd i ysbryd y Nadolig a gwrando ar The Night Before Christmas yn ein sesiynau amser stori yn yr ystafell Nadolig. Bydd Byddin yr Iachawdwriaeth a cherddoriaeth fyw arall hefyd yn darparu adloniant trwy gydol y dydd. Bydd gan y rhan fwyaf o werthwyr beiriant cardiau yn y digwyddiad hwn ond sicrhewch fod gennych arian parod rhag ofn y bydd unrhyw broblemau.