Background Splash

Gan Alex Stockton

ChesterPRIDE2

Fel rhan o gyfres lwyddiannus Culture Collective Coleg Cambria, aeth dros 230 o ddysgwyr i weithdai a chyflwyniadau gwadd ar safleoedd y coleg yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam.

Dywedodd Judith Alexander, Cydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth: “Fe gawsom ni ddau ddiwrnod ysbrydoledig iawn, yn llawn siaradwyr gwadd anhygoel, arddangosfa a sgyrsiau sy’n ysgogi’r meddwl gyda dysgwyr.

“Mae Culture Collectives yn canolbwyntio ar ddeialog a chysylltiad, gan annog bod yn agored i safbwyntiau, profiadau a gwerthoedd amrywiol.

“Rydyn ni wedi archwilio’r cyd-destun hanesyddol a’r heriau sy’n wynebu cymunedau LHDTC+ o’r 1800au i’r 1980au hyd at heddiw, gan dynnu sylw hefyd at y manteision economaidd a’r cyfleoedd i dyfu mewn busnesau cynhwysol LHDTQ+.

“Mae’r adborth wedi bod yn ddiddorol iawn, ac rydyn ni’n gobeithio cynnal digwyddiadau tebyg o’r flwyddyn nesaf ymlaen.”

Ymhlith y rhai wnaeth gyflwyno yn y coleg roedd Emma Holland, Cynorthwyydd Treftadaeth o Blas Newydd rhestredig Gradd II yn Sir Ddinbych a wnaeth siarad am ‘Foneddigesau Llangollen’ enwog, Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, merched annibynnol ac aelodau o deuluoedd cyfoethog Iwerddon a wnaeth adael y wlad gyda’i gilydd cyn ymddeol i Ogledd Cymru lle byddent yn byw fel cwpl am bron i hanner canrif.

Roedd trafodaeth hefyd gyda’r darlithydd Jayne Francis-Headon, a roddodd sgwrs ysbrydoledig am y cydweithrediad LHDTQ+ yn ystod streiciau’r glowyr yng nghanol yr 1980au a’i chysylltiadau â’r ffilm arobryn, Pride, gyda Bill Nighy ac Imelda Staunton.

Y diwrnod canlynol cafodd sesiwn ei gynnal gyda Richard Euston, Prif Swyddog Gweithredol Chester Pride, ac fe wnaeth arbenigwyr The Hair and Beauty Equity gynnal stondin yng Nglannau Dyfrdwy, gyda chefnogaeth dysgwyr a darlithwyr Gwallt a Harddwch a wnaeth roi arweiniad ar drawsnewid, awgrymiadau ar groen a thechnegau colur.

Gyda chefnogaeth timau Profiad a Chynhwysiant Dysgwyr Cambria, dywedodd caplan y coleg, Tim Feak, fod y digwyddiadau wedi cael croeso mawr ac fe wnaeth ganmol dysgwyr am yr “ymrwymiad a’r ymgysylltiad” sydd wedi cyrraedd lefelau newydd ar ôl y pandemig.

“Roedd y sgyrsiau a’r gweithgareddau hyn yn enghraifft wych o ddathlu a dysgu, a’r hyn oedd yn eu gwneud mor arbennig oedd eu bod yn cael eu trefnu a’u harwain gan fyfyrwyr yn ogystal â staff,” ychwanegodd.

“Mae gweithio gyda’n dysgwyr anhygoel yn fraint ac yn ychwanegu lefel o ddyfnder ac arwyddocâd i’r Culture Collective.

“Dwi’n falch iawn o bawb sy’n cymryd rhan ac mae’n teimlo ein bod ni wedi cyflawni rhywbeth eithaf arwyddocaol eto trwy eu gwaith, sydd wedi mynd o nerth i nerth dros y tair blynedd diwethaf.”

Fe wnaeth Judith a Tim longyfarch cynrychiolwyr myfyrwyr Max Williams a Jacob Sterio a weithiodd gydag aelodau staff i drefnu’r rhaglen a hyrwyddo clybiau a sefydliadau Llais Myfyrwyr LHDTQ+.

FI gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at judith.alexander@cambria.ac.uk or tim.feak@cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost