Rhoddodd Natalie Morris, Arbenigwr Uwch Toyota yr allweddi i’r Adran Beirianneg / Cerbydau Modur yn y Coleg yn ystod digwyddiad lle’r oedd Elfyn Evans yn bresennol, sef gyrrwr Ralio’r Byd Toyota – daeth gyda’i gerbyd Yaris GR, a Jason Stanley, Rheolwr Cyffredinol Marchnata Toyota GB.
Gwnaeth Nick Tyson, Is-bennaeth y Coleg gymryd y rhodd a chynnal sesiwn cyfarfod a holi ac ateb gydag Elfyn Evans a rhai o’r Prentisiaid a’r Myfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn astudio yn y Coleg.
Atebodd Elfyn lawer o gwestiynau yn ogystal â rhannu rhai mewnwelediadau anhygoel a chyngor ar yr hyn sydd ei angen i lwyddo.
Soniodd Nick Tyson am y berthynas anhygoel sydd gan Goleg Cambria gyda Ffatri Injans Toyota a dywedodd ei fod yn “hynod o ddiolchgar am y rhodd hael iawn gan Toyota, a fydd yn cynorthwyo dygwyr yn y Coleg, i ddeall am dechnoleg Hybrid yn uniongyrchol”.
Ar y cyd gyda Choleg Cambria, mae gan Toyota raglenni prentisiaeth mewn Cynnal a Chadw, Cynhyrchu a Gweinyddu Busnes a bydd yr ymgyrch recriwtio ar gyfer 2023 yn dechrau yn fuan iawn.
Bydd cyfleoedd swyddi yn cael eu rhannu ar TOYOTA Motor Manufacturing UK – Begin your Toyota journey now (toyotauk.com)
Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.