Cyswllt Ysgolion

Rhaglen Cyswllt Ysgolion 14-16
Cyswllt Ysgolion

Mae Rhaglen Cyswllt Ysgolion Coleg Cambria yn gweithio ar y cyd gydag ysgolion ac awdurdodau lleol. Mae’n gyfle gwych i ddysgwyr 14-16 oed i brofi hyfforddiant galwedigaethol ac ennill cymhwyster a gydnabyddir gan ddiwydiant wrth astudio yn yr Ysgol.

Bob wythnos rydym yn croesawu dros 1,000 o ddysgwyr o ysgolion ledled Gogledd Ddwyrain Cymru i astudio ystod eang o gyrsiau cyffrous. Mae cyrsiau wedi’u hanelu at opsiwn ymarferol, sy’n canolbwyntio ar yrfa, ac mae pob un wedi’u dylunio i fodloni anghenion y diwydiant lleol.  Mae’r rhain yn cynnwys Gofal Anifeiliaid, Peirianneg, Adeiladu, Cyfrifiadura, Trin Gwallt a Harddwch, Gwasanaethau Cyhoeddus a rhagor – mae’r holl gyrsiau hyn yn rhoi mewnwelediad i lwybrau gyrfa a chyflogaeth posib.

Mae Coleg Cambria yn cynnig yr un ansawdd rhagorol o hyfforddiant ymarferol i ddysgwyr 14-16 oed ag yr ydym yn ei gynnig i’n dysgwyr 16+ ac mae astudio ar unrhyw un o’n safleoedd yn galluogi pobl ifanc i gyrchu cyfoeth o gyfleusterau o safon diwydiant eithriadol:

  • Buddsoddiad o £10 miliwn mewn Canolfan Sgiliau STEM/Canolfan Dechnoleg Peirianneg ysbrydoledig yn Ffordd y Bers
  • Canolfan Rhagoriaeth yng Nglannau Dyfrdwy
  • Safle tir entrepreneuraidd 970 erw yn Llysfasi sy’n gartref i uned laeth gwerth £1 miliwn
  • Salon Trin Gwallt a Harddwch masnachol arbenigol a bwyty hyfforddi safon broffesiynol a chyfleusterau arlwyo
  • Canolfan Gofal Anifeiliaid