Cyswllt Ysgolion

A tutor showing a happy student some information on a laptop
Trosolwg

Rydyn ni’n gweithio’n agos gydag ysgolion i gefnogi dysgwyr i archwilio eu hopsiynau ar gyfer y dyfodol a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu camau nesaf.

Mae ein tîm yn cynnig ystod o weithgareddau diddorol a llawn gwybodaeth, yn eich ysgol ac ar ein safleoedd, gan gynnwys sgyrsiau, digwyddiadau, teithiau a phrofiadau rhyngweithiol wedi’u dylunio i roi mewnwelediad go iawn i ddysgwyr i fywyd coleg.

Defnyddiwch y ffurflen isod i ofyn am gymorth, ac mi wnawn ni gysylltu â chi i drefnu’r opsiwn mwyaf addas i’ch dysgwyr.

Canllaw Gwasanaethau i Ysgolion

Mae ein Canllaw Gwasanaethau i Ysgolion yn rhoi trosolwg o’r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys sgyrsiau, teithiau, gweithgareddau rhagflas a llwybrau dilyniant. Mae’n fan cychwyn defnyddiol cyn cyflwyno cais.

Sut Allwn Ni Gefnogi Eich Ysgol Chi

Bod yn bresennol mewn ffair gyrfaoedd neu ddigwyddiad ysgol

Gallwn ni ddod i ddigwyddiadau ysgol i siarad â dysgwyr, rhieni a staff am gyfleoedd yng Ngholeg Cambria.

Bod yn bresennol mewn noson rieni

Cyfle i deuluoedd i ofyn cwestiynau a darganfod rhagor am gyrsiau, cymorth a chamau nesaf.

Gweithdy rhyngweithiol yn eich ysgol

Sesiynau ymarferol wedi'u cyflwyno gan ein timau, gan roi mewnwelediad ymarferol i ddysgwyr i'r meysydd pwnc gwahanol.

Cyflwyno'r coleg yn eich ysgol

Cyflwyniad defnyddiol i'r coleg, llwybrau dilyniant a'r hyn y gallai dysgwyr ei ddisgwyl.

Taith o amgylch safle Coleg Cambria

Cyfle i ddysgwyr archwilio un o'n safleoedd a chael gweld sut beth ydy bywyd coleg.

Ymweliad rhagflas neu sesiwn ryngweithiol

Gweithgareddau a phrofiadau sy'n canolbwyntio ar bynciau wedi'u cynllunio i roi cipolwg mwy ymarferol i ddysgwyr ar gyrsiau coleg. I weld enghraifft o sut beth ydy diwrnod rhagflas, cliciwch yma.

Gofyn am Gymorth

Ddim yn siŵr pa opsiwn sy’n iawn i’ch ysgol?
Dewiswch yr opsiwn agosaf a defnyddiwch y blwch manylion ychwanegol i ddweud rhagor wrthym ni.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost