Background Splash

Gan Alex Stockton

skillsday2

Gwnaeth disgyblion o Ysgol Owen Jones o bentref yn Sir y Fflint gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau a oedd yn canolbwyntio ar Fathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol.

Cafodd y criw gyfle i weld a thrin rhai o’r ystod eang o rywogaethau yng Nghanolfan Anifeiliaid Bychan y safle, sy’n gartref i dros 200 math o ymlusgiaid, pysgod ac amffibiaid i famaliaid, adar ac infertebratau.

Mae Paul Williams sy’n ddarlithydd yn Cambria yn gobeithio bydd y diwrnod sgiliau yn dod yn ddigwyddiad blynyddol.

“Roedd hi’n wych cael y disgyblion gyda ni o Flynyddoedd 4, 5 a 6 i arddangos yr hyn rydyn ni’n ei gynnig yma yn Llaneurgain, y cyfleusterau anhygoel, ac i gydweithio gyda dau rhanddeiliad allweddol yn yr ardal leol,” meddai Paul.

“Mi wnaeth y disgyblion greu cyflwyniadau PowerPoint, dylunio cyflwyniadau, dangos eu sgiliau ac yn fwy pwysig na dim, mi wnaeth pawb fwynhau hefyd.”

Ychwanegodd pennaeth Ysgol Owen Jones, Gareth Caughter: “Mae wedi bod yn ddiwrnod hollol wych ac yn gyfle i’r plant ddatblygu eu sgiliau Saesneg, Mathemateg a Llythrennedd Digidol.

“Hefyd, mae’n gyfle i ni gadarnhau ein cysylltiadau gyda’r coleg, rydyn ni’n gobeithio gwneud rhagor o hynny yn y dyfodol.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost