Gwnaeth un ar bymtheg o staff Coleg Cambria safle Ffordd y Bers yn Wrecsam ymgymryd â’r her o gwblhau Tri Chopa Cymru.
Hyd yn hyn maent wedi codi dros £3,450 er budd Cerrig Camu Gogledd Cymru, sefydliad sy’n darparu gwasanaethau cwnsela therapiwtig a chymorth i oedolion a gafodd eu cam-drin yn feddyliol ac yn gorfforol pan oeddynt yn blant.
Bu’r tîm yn dringo’r Wyddfa, Cadair Idris a Phen y Fan, gan lwyddo i gyflawni’r tri o fewn 22 awr – cyfanswm o 27.4 cilometr, ac esgyniad o 7,657 troedfedd.
Cafodd y tîm eu harwain gan Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg yn Ffordd y Bers, sydd wedi cyflawni nifer o weithgareddau at achosion gwerth chweil yn y gorffennol. Mae’r rhain yn cynnwys y ‘Crazy 7’ yn yr Alban a’r her arwrol ‘Freezing Fingers’, lle teithiodd 100 o filltiroedd dros bedwar diwrnod mewn amodau llwm dros fynyddoedd y Rhinogydd yn Eryri, rhai o’r tirweddau caletaf a mwyaf garw yn y DU, ochr yn ochr â’r darlithydd AU Paul Standring.
Diolchodd Karl i’r noddwyr am eu cefnogaeth, gan gynnwys Wynne Construction, Anwyl Homes, Redrow, Kronospan, READ Construction a Jones Bros.
“Fe wnaethom ni chwalu ein targed codi arian felly diolch i bawb wnaeth gyfrannu, rydyn ni wrth ein boddau,” meddai .
“Roedd y grŵp cyfan yn anhygoel, roedden ni’n gefn i’n gilydd ac fe wnaethon ni ei gwblhau mewn amser da, yn gyflymach na’r disgwyl.
“Roedd yr amodau o’n plaid, a phawb yn cyd-dynnu. Roedd yn ddiwrnod gwych.”
Dywedodd: “Mae Cerrig Camu yn elusen anhygoel felly rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi codi swm mor anferthol o arian, ac yn gobeithio y bydd yn eu helpu i barhau i gyflawni eu gwaith gwych yng Ngogledd Cymru.”
Diolchodd ymddiriedolwr Cerrig Camu Vincent McAllister i Cambria am ei gyfraniad, a dywedodd: “Mae Cerrig Camu yn darparu gwasanaeth hynod o bwysig i’r rhai sydd ei angen ar draws Gogledd Cymru.
“Fodd bynnag, ni fyddem yn gallu helpu ein cleientiaid oni bai am y gefnogaeth aruthrol a gawn gan ein grwpiau partner ac unigolion fel y grŵp anhygoel hwn o wirfoddolwyr.
“Rydyn ni mor ddiolchgar ac ar ben ein digon bod pobl yn fodlon mynd gam ymhellach i godi arian i ni. Ni alla’ i ddiolch digon iddynt am roi o’u hamser ac am eu hymdrechion aruthrol gyda’r fenter hon.
“Dylen nhw fod mor falch o’r canlyniad, a galla’ i eu sicrhau nhw y bydd pob ceiniog sydd wedi’i chodi yn mynd i gefnogi ein cleientiaid.”
I noddi’r tîm ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i Her Tri Chopa Cymru Tîm Elusen Ffordd y Bers | Localgiving.
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.