Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

GAME ON! Skilled students displayed control and strategy to win the final of an epic Esports tournament

Daeth criw buddugoliaethus Cambria Chimeras, bob un ohonyn nhw’n ddysgwyr Lefel 2 a Lefel 3 mewn E-chwaraeon yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy, yn fuddugol yng Nghwpan y Gwanwyn Apex Legends.

Gwnaeth y sgwad o dri – Oliver Pearce, Kyle Tarran ac Owen Maynard – guro’r timau eraill o hyd a lled y wlad, gan gynnwys timau coleg a phrifysgol.

Disgrifiodd British Esports y gwpan fel “un o’r cwpanau fwyaf cyffrous rydyn ni erioed wedi’i gynnal.”

“Roedd y rownd derfynol yn anhygoel, roedd yn dilyn wythnosau o strategu a chyd-weithio i fynd drwy’r rowndiau,” meddai Oliver, o Wrecsam.

“Rydyn ni wrth ein bodd wrth ystyried faint rydyn ni wedi’i roi i mewn i hyn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gystadlu mewn twrnameintiau yn y dyfodol.”

Yn ôl y sôn mae Kyle, o Gei Connah, wedi’i enwi fel y gorau yn y DU – roedd dros 40 o grwpiau i’w llywio – dywedodd roedd yn “deimlad anhygoel” a’u bod nhw wedi’u disgrifio fel cystadleuwyr annisgwyl y gystadleuaeth.

Ychwanegodd Owen sy’n fyfyriwr o Bentre Helygain: “Mi wnaethon ni i gyd chwarae i’n cryfderau ac er bod heriau’n codi weithiau ac roedd yna bwysau mawr arnom ni, mi wnaethon ni weithio’n galed i ennill y gwpan.

“Roedden ni’n cystadlu yn erbyn timau enwog, colegau sydd ag enw da gyda llawer o gefnogaeth y tu ôl iddyn nhw, felly mae’n gyflawniad enfawr i ni.”

Daw’r llwyddiant wrth i Cambria baratoi i ddatgelu ardal gemau newydd werth £230,000 ar ei safle yn Sir y Fflint a fydd yn agor yn yr haf eleni.

Mae Lauren Crofts sy’n ddarlithydd yn y coleg yn canmol ei myfyrwyr am eu perfformiad gwerth chweil yng Nghwpan y Gwanwyn a dywedodd hi fod llawer o bethau cyffrous ar y gweill ar gyfer y rhaglen E-chwaraeon.

“Mi wnaethon nhw roi llawer o’u hamser eu hunain ac ymdrech i mewn i hyn, gan edrych ar strategaethau a dulliau chwarae, ac mi wnaethon nhw weithio’n dda iawn gyda’i gilydd fel tîm,” meddai hi.

“Dwi mor falch o bob un ohonyn nhw, maen nhw’n glod i Goleg Cambria ac yn edrych ymlaen yn barod at y twrnamaint nesaf!”

Ychwanegodd hi: “Mae’r cwrs E-chwaraeon wedi bod yn boblogaidd iawn dros y blynyddoedd diwethaf ac mi fydd y buddsoddiad grant yma yn ein galluogi ni i gyflwyno dwy ardal chwarae gemau newydd, ac mi fydd un ohonyn nhw’n ardal berfformio Sim Racing.

“Mi fydd yr un arall yn rhoi rhagor o le i ni edrych ar sylwebu ffrydio cyfryngau byw, datblygu sgiliau eraill a chreu gemau, gan ddefnyddio’r lle a chyflwyno technoleg o’r radd flaenaf, yn ogystal â chyflwyno E-chwaraeon i ysgolion cynradd ac uwchradd i esbonio’r ystod eang o yrfaoedd sy’n bodoli yn y diwydiant yma.

“Rydyn ni’n cael llawer o adborth cadarnhaol a diddordeb gan ddarpar fyfyrwyr felly mi fydd hyn yn bwynt gwerthu unigol sylweddol i ni – mi fydd o’n anhygoel.”

Ychwanegodd Lisa Radcliffe, Pennaeth Cynorthwyol Astudiaethau Technegol: “Dwi mor falch o’n dysgwyr E-chwaraeon sydd wedi dangos gwytnwch gwirioneddol, cydweithredu, a chydweithio trwy gydol y gystadleuaeth yma – mae dod yn bencampwyr yn gyflawniad arbennig.

“Trwy gydol y rhaglen rydyn ni wedi annog rhyngweithio cymdeithasol a datblygu sgiliau rhyngbersonol mewn dysgwyr a allai gael eu gadael allan yn gymdeithasol. Mae’n rhaglen gyffrous gyda’n hardal chwarae gemau newydd yn cael ei hagor ym mis Medi, yn barod i ddatblygu ein pencampwyr newydd.”

Mae E-chwaraeon yn sector ffyniannus sydd werth biliynau o ddoleri ac mae Cambria Chimeras wedi cael ymweliadau o sgowtiaid talent sy’n cynrychioli rhai o sefydliadau gemau a thimau proffesiynol mwyaf blaenllaw’r byd, fel Excel Esports.

I gael rhagor o wybodaeth am E-chwaraeon yng Ngholeg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost