Home > Hwb Cyfathrebu Covid
HWB CYFATHREBU COVID-19
Diweddariad Covid-19 Coleg Cambria
Wedi ei ddiweddaru ddiwethaf 29.03.2022
Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu bron pob un o’r rheoliadau Coronafeirws a ddaeth i rym o 28 Mawrth 2022, rydym wedi gwneud y newidiadau canlynol yn unol â’n mesurau rheoli parhaus.
Ar hyn o bryd mae Cymru ar Lefel Rhybudd 2 sy’n golygu bod yn rhaid i ni fod hyd yn oed yn fwy gwyliadwrus wrth atal Covid-19 ac yn enwedig yr amrywiad Omicron. Wedi dweud hynny, y bwriad yw bod lleoliadau addysg yn parhau ar agor a bod addysgu yn cael ei ddarparu wyneb yn wyneb.
Rydym yn gofyn i’n holl fyfyrwyr a chydweithwyr ddilyn y canllawiau isod:
Os oes gennych unrhyw un o symptomau COVID-19, dylech hunan-ynysu a pheidio â dod i’r coleg. Cymerwch brawf llif unffordd (LFT). Os yw’r prawf llif unffordd yn negyddol gallwch stopio hunanynysu a dod i’r coleg os ydych chi’n teimlo’n ddigon da.
Os oes gennych unrhyw un o symptomau’r Coronafeirws a’ch bod yn profi’n bositif dylech hunanynysu a rhaid i chi beidio â dod i’r coleg.
Dylai unrhyw un sydd wedi profi’n bositif am COVID 19 ddychwelyd i’r Coleg pan fyddant wedi cael dau brawf LFT negyddol yn olynol o ddiwrnod 5 ymlaen neu ar ddiwrnod 10, p’un bynnag sydd gyntaf.
Mae pobl yn debygol o barhau i fod yn ofalus wrth i ofynion cyfreithiol gael eu codi. Dylai cydweithwyr a myfyrwyr barhau i barchu dewisiadau unigol o ran cadw pellter cymdeithasol, a gwisgo gorchuddion wyneb.
Diolchwn i chi am eich cefnogaeth barhaus i sicrhau bod y Coleg yn parhau i gael pob mesur rhesymol ar waith i leihau trosglwyddiad COVID 19.
Am unrhyw gwestiynau pellach, cyfeiriwch at ein Cwestiynau Cyffredin isod.
Cwestiynau Cyffredin
Mae profion LFT ar gael o hyd gan y Gwasanaethau Myfyrwyr ar bob un o safleoedd y Coleg ac yn nerbynfa’r Adran Beirianneg ar safle Glannau Dyfrdwy. Fel arall, maent ar gael o fferyllfeydd lleol ac ar hyn o bryd maent yn rhad ac am ddim yng Nghymru.
Os byddwch yn cael canlyniad positif (naill ai LFT neu PCR) dylech hunanynysu ar unwaith (hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn). Dylai unrhyw un sydd wedi profi’n bositif am COVID 19 ddychwelyd i’r Coleg pan fyddant wedi cael dau brawf LFT negyddol yn olynol o ddiwrnod 5 ymlaen neu ar ddiwrnod 10, p’un bynnag sydd gyntaf.
Mae angen i chi hefyd roi gwybod i’r Coleg am eich absenoldeb drwy’r Hwb Myfyrwyr gan ddewis yr opsiwn Hunan-Ynysu Prawf Llif Unffordd Positif COVID-19. Bydd eich tiwtoriaid yn cysylltu â chi i drefnu dysgu ar-lein fel y gallwch barhau â’ch astudiaethau gartref.
Yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ni fydd yn ofynnol mwyach i ddysgwyr wisgo gorchudd wyneb ar gludiant y Coleg nac yn unrhyw un o fannau dan do’r Coleg ac eithrio:
Ystafelloedd dosbarth penodol lle mae staff darlithwyr wedi penderfynu ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr barhau i wisgo gorchudd wyneb fel mesur rhagofalus i gefnogi’r rhai sy’n bresennol a allai fod mewn mwy o berygl o salwch oherwydd coronafeirws. Bydd yr ystafelloedd dosbarth hyn wedi’u harwyddo’n glir a bydd eich darlithwyr yn eich atgoffa.
Os oes gennych unrhyw symptomau coronafeirws (tymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golli neu newid blas neu arogl), rhaid i chi hunan-ynysu gartref a chael prawf. Ni ddylech ddod i’r safle. Yn lle hynny, rhowch wybod i’r Coleg am eich absenoldeb trwy’r Hwb Myfyrwyr a dilynwch ganllawiau hunan-ynysu’r llywodraeth a chyngor y GIG i wneud prawf LFT. Os yw’r prawf llif unffordd yn negyddol gallwch stopio hunanynysu a dod i’r coleg os ydych chi’n teimlo’n ddigon da.
Os cewch wybod eich bod wedi cael eich nodi fel rhywun sydd wedi dod i gysylltiad agos gan system Profi, Olrhain, Diogelu y GIG trwy e-bost neu neges destun, neu gan rywun sydd wedi profi’n bositif yn uniongyrchol, nid oes angen i chi hunan-ynysu ond dylech fod yn wyliadwrus am brif symptomau COVID- 19 a:
- Rhowch sylw manwl i brif symptomau COVID-19. Os byddwch yn datblygu unrhyw un o’r symptomau hyn, archebwch brawf LFT. Fe’ch cynghorir i aros gartref ac osgoi cyswllt â phobl eraill wrth i chi aros am ganlyniad eich prawf
- Lleihau cyswllt â’r person sydd â COVID-19
- Osgoi cysylltiad ag unrhyw un rydych chi’n ei adnabod sydd mewn perygl uwch o fynd yn ddifrifol wael os ydyn nhw wedi’u heintio â COVID-19, yn enwedig y rhai sydd â system imiwnedd wan iawn
- Cyfyngu ar gysylltiad agos â phobl eraill y tu allan i’ch cartref, yn enwedig mewn mannau gorlawn, caeedig neu sydd â system awyru gwael
- Gwisgwch orchudd wyneb wedi’i wneud â haenau lluosog mewn mannau gorlawn, caeedig neu wedi’u hawyru’n wael a lle rydych mewn cysylltiad agos â phobl eraill
- Golchwch eich dwylo’n rheolaidd a gorchuddio peswch a thisian.
Dylech ddilyn y cyngor hwn am 10 diwrnod ar ôl bod mewn cysylltiad â’r person a gafodd brawf positif.
Gallai, yn dilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, bydd ein haseswyr yn y Gwaith yn gallu ymweld â gweithleoedd, a byddant yn cydymffurfio ag unrhyw fesurau ataliol sydd ar waith mewn lleoliadau cyflogwyr. Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â’ch aseswr yn uniongyrchol neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk