Background Splash

Gan Alex Stockton

Jack Sargeant before and now

Cafodd y gweinidog sy’n gyfrifol am bolisi prentisiaethau Cymru gyfle yr wythnos hon i ddychwelyd i’r coleg lle bu ef ei hun yn astudio fel prentis, i ddathlu Wythnos Prentisiaethau a thynnu sylw at fanteision y llwybr hwn at gyflogaeth.

Ar ôl gadael yr ysgol yn 17 oed, bu’r Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant, yn astudio yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy (Coleg Cambria erbyn hyn) ac yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Wrecsam. Trwy gydol y cyfnod hwn roedd yn ennill cyflog wrth iddo ddysgu trwy fod ar leoliad ym myd diwydiant.

Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn dechrau heddiw (dydd Llun 10 Chwefror) gan roi cyfle i ddathlu manteision prentisiaethau i ddysgwyr, cyflogwyr ac economi ehangach Cymru.

Wrth annerch myfyrwyr, cyn-brentisiaid a chynrychiolwyr diwydiannau yn y coleg, dywedodd:

“Trwy fy mhrentisiaeth, llwyddais i ennill cymwysterau a datblygu sgiliau ymarferol ar yr un pryd, sydd wedi fy helpu trwy gydol fy ngyrfa. Mae’r un sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau a ddysgais fel prentis bellach yn fy helpu i lunio’r polisïau a fydd yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o brentisiaid ledled Cymru.”

“Cefais fy magu yn y gogledd-ddwyrain, lle mae gweithgynhyrchu uwch yn gyflogwr o bwys, ac rwy’n gwybod bod prentisiaethau yn darparu llwybr at swyddi o ansawdd uchel. Mae cwmnïau fel Airbus wedi gosod y safon ar gyfer prentisiaethau, ac mae eu llwyddiant yn fodel i eraill. Er bod cyflogwyr mawr yn chwarae rhan hanfodol, mae prentisiaethau yr un mor bwysig i fusnesau bach a chanolig, gan eu helpu i ddatblygu’r dalent sydd ei hangen arnynt i dyfu.”

“Rydyn ni’n falch o’n hanes o ddarparu ein rhaglen brentisiaethau flaenllaw yng Nghymru. Mae prentisiaethau yn fuddsoddiad yn y dyfodol ac mae cymaint o gyfleoedd cyffrous, fel economi werdd Cymru neu ein sector creadigol ffyniannus, er enghraifft. Bydd y £144 miliwn a neilltuwyd yn ein cyllideb ddrafft yn sicrhau y gall busnesau o bob maint gyflogi prentisiaid, gan ddarparu cyfleoedd i filoedd ennill sgiliau a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.”

Dengys y data diweddaraf (Ebrill 2024) bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi bron i 56,000 o brentisiaethau newydd a gychwynnwyd hyd yma yn ystod tymor y Senedd hon. Gwelwyd y cyllid blynyddol yn cynyddu o £128 miliwn (yn 2020) i bron i £144 miliwn eleni, er bod cyllid Ewropeaidd wedi dod i ben yn 2023 i 2024.

Mae’r prentisiaethau sydd ar gael yn cwmpasu popeth o adeiladu ac ynni i wasanaethau ariannol a phroffesiynol, twristiaeth a’r gwyddorau bywyd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo a blaenoriaethu buddsoddiad yn y sectorau hynny a fydd yn cefnogi twf economaidd a chydlyniant cymunedol. Yn eu plith mae’r rhai mewn sectorau lefel uwch, mwy technegol, cefnogi prentisiaethau STEM a pharodrwydd sero net, a chynyddu nifer y gradd-brentisiaethau.

Mae Nick Tyson, Is-Bennaeth Athrofa Technoleg Coleg Cambria, yn cofio gyda balchder gyfnod y Gweinidog gyda’r coleg yn ystod ei brentisiaeth:

“Roedd Jack yn beiriannydd ifanc â’i feddwl ar ei waith. Roedd ei sgiliau ymarferol yn ardderchog. Roedd ei wybodaeth a’i sgiliau academaidd yn cyrraedd lefel rhagoriaeth yn gyson, cymaint felly nes aeth ymlaen i wneud cymhwyster HNC gyda ni ac yn y pen draw cafodd radd. Mae’n llysgennad gwych ar gyfer peirianneg.”

Ychwanegodd:

“Rydyn ni’n lwcus iawn yng Nghymru bod y gweinidog yn siarad o brofiad, oherwydd gall ysbrydoli eraill, a gall barhau i hyrwyddo prentisiaethau o’r radd flaenaf yma yng Nghymru.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost