Y Llyfrgell a Sgiliau Astudio Academaidd

ALN Student

Mae’r llyfrgelloedd ar safleoedd y coleg ac maent yn lle gwych i ddod a bod yn rhan o fywyd y coleg.

Siaradwch â’n tîm cyfeillgar am sut y gallwn eich cefnogi chi gyda’ch astudiaethau.

Mae gennym ystod wych o adnoddau i’ch helpu gyda gwaith cwrs.

Mae’r rhain yn ystyried eich dewis a’ch dull dysgu eich hun a gellir eu defnyddio yn y coleg neu wrth astudio gartref.

Os yw’n well gennych chi gael print mae gennym ystod ardderchog o lyfrau sy’n cefnogi eich cwrs.

Mae ein casgliad digidol yn cynnig platfformau fideo o ansawdd uchel i wella eich gwybodaeth ac mae gennym un o’r casgliadau e-lyfrau sy’n cael ei ddefnyddio amlaf a’r un mwyaf yng Nghymru! Mae ein llyfrgelloedd yn groesawgar, cynhwysol ac wedi’u dylunio i weddu eich anghenion.

Mae gennym ddigon o gyfrifiaduron a Chromebooks ar gael i chi eu defnyddio a gallwch chi fenthyg Chromebooks i astudio gartref.

Os mae angen cymorth arnoch chi gyda’ch gwaith cwrs, aseiniadau, arholiadau neu, rydych yn cael trafferth i fodloni terfynau amser ac mae angen cymorth ychwanegol arnoch chi gallwn gynnig awgrymiadau defnyddiol ar sut i gynllunio a chadw mewn rheolaeth.

Mae gennym dîm o hwyluswyr sgiliau a allai gael cyfarfod un i un gyda chi i drafod strategaethau i lwyddo. Dyma rai o’r pynciau y gallwn ni roi cymorth i chi arnynt:

  • Cynllunio a threfnu eich amser
  • Technegau arholiad ac adolygu
  • Creu aseiniad da
  • Ymchwilio a dod o hyd i ffynonellau gwybodaeth
  • Sgiliau cyflwyno
  • Sgiliau digidol
  • Meddwl yn feirniadol

Mae ein tîm ymroddedig yma i’ch helpu chi dros e-bost neu dros y ffôn.

Mae pob croeso i chi gysylltu â ni ar gyfer ymholiadau llyfrgell.

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

mail svg

E-bost

Fideos Defnyddiol

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost