main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

A booming sports academy is tabling huge attendances following a successful first year

Mae’r cydweithrediad rhwng Coleg Cambria a sefydliad Tennis Bwrdd Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y 12 mis diwethaf, mewn partneriaeth â chymunedau ac ysgolion ar draws Gogledd Cymru.

Mae’r Swyddog Datblygu Rhanbarthol Aaron Beech wedi cysylltu â chlybiau, athrawon Addysg Gorfforol a sefydliadau llawr gwlad mewn ymgais i ddod o hyd i bencampwr Olympaidd, Gymanwlad neu’r Byd nesaf y wlad.

Cynhaliodd yr Academi bedair gŵyl ar safle Iâl y coleg yn Wrecsam – gyda chefnogaeth disgyblion TGAU – gan dargedu plant ysgol gynradd.

Aeth dros 300 i’r digwyddiadau, gan gymryd rhan mewn gemau a gweithgareddau hwyliog.

“Mi wnaethon ni gynnal gwyliau yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy a Llaneurgain i ysgolion ysgol gynradd ac uwchradd, gan weithio gydag Aura Leisure a hyfforddwyr lleol,” meddai Aaron.

“Ac mae’r holl sesiynau rhagflas mi wnaethon ni eu cynnal ar draws Siroedd Fflint, Dinbych, Gwynedd, Conwy a Môn wedi ein galluogi ni i ymgysylltu â dros 2000 o bobl ifanc, gan eu cyflwyno nhw i denis bwrdd a meithrin cariad at y chwaraeon.”

Yn ogystal â chanolbwyntio ar gystadleuaeth elitaidd, bydd y rhaglen Bwyd a Hwyl sy’n dychwelyd yn cynnwys clybiau tenis bwrdd o Ewlo, Llaneurgain, y Rhyl a Chlwb y Drindod yn Nhrefnant, gan annog plant i gadw’n heini a bwyta’n iach yr haf yma.

Partner pwysig arall i’r Academi yw Chwaraeon Anabledd Cymru, sydd wedi helpu Aaron a’r tîm i hybu cynhwysiant a hygyrchedd i bawb.

“Rydyn ni wrthi’n cyfeirio chwaraewyr at glybiau lleol ac yn chwilio am ein Paralympiad nesaf, gan feithrin amgylchedd cefnogol,” meddai.

“P’un a ydy’n ddiwrnodau hyfforddi a dethol sirol, gan sicrhau amgylchedd cadarn a chystadleuol i’n hathletwyr, neu sesiynau i ddysgwyr ag anableddau, mae gennym ni ymrwymiad llwyr i annog cymaint o bobl ag y gallwn ni, wedi’i atgyfnerthu gan ymrwymiad a brwdfrydedd ein hyfforddwyr, sy’n allweddol yn y llwyddiant rydyn ni wedi’i gael hyd yma.”

Ychwanegodd Aaron: “Mae’r partneriaethau cadarn rydyn ni wedi’u meithrin ers lansio wedi bod yn hollbwysig, gan gynnwys Prifysgol Bangor – lle buon ni’n cynnal Pencampwriaethau Timau Cyn-filwyr a Chystadleuaeth Agored agoriadol Bangor – neu’r gwaith archwiliol rydyn ni’n ei wneud gyda’r Geidiaid a’r Sgowtiaid.

“Mae ein mentrau yng Ngogledd Cymru wedi cael effaith sylweddol ar y gymuned, gan hyrwyddo gweithgaredd corfforol a thyfu cariad at denis bwrdd ymhlith pobl ifanc. Dwi’n edrych ymlaen at barhau â’n gwaith a chynyddu ein cyrhaeddiad yn y misoedd nesaf.”

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at aaron.beech@tabletennis.wales neu ewch i www.tabletennis.wales.

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost