Bydd Harvey Clare a Max Davies yn dechrau eu swyddi newydd yn Airbus Brychdyn ym mis Medi.
Mae’r ddau yn 18 oed ac yn gyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Darland yn Yr Orsedd. Bydd Harvey yn ymgymryd â Phrentisiaeth Gradd Rheoli Busnes, tra bydd Max yn astudio am Brentisiaeth Gradd Peirianneg, a gyflwynir mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.
Bu’r ddau, sy’n dod o Wrecsam, hefyd yn astudio’r un cyrsiau Safon Uwch yn Chweched Iâl yng Ngholeg Cambria ac yn edrych ymlaen at ddechrau’r bennod nesaf hon gyda’i gilydd.
Llwyddodd Max i gael A* mewn Mathemateg, A* mewn Ffiseg a A mewn Busnes, a llwyddodd Harvey i gael A mewn Mathemateg, B mewn Ffiseg, a B mewn Busnes.
“Rydyn ni’n adnabod ein gilydd ers tro, felly mae wedi bod yn wych cefnogi ein gilydd drwy’r broses o wneud cais ac ymlaen rŵan at y prentisiaethau,” meddai Max.
“Fe wnaethon ni’n dau Lefel 2 BTEC mewn Peirianneg yn yr ysgol uwchradd a chael blas ar y sector awyrofod, felly dyna ble gychwynnodd pethau.
“Roedd y cyfle i ennill wrth ddysgu mor agos at adref yn gynnig deniadol arall ac allwn ni ddim aros i ddechrau arni.”
Mae Coleg Cambria a’u partneriaid yn cyflwyno amrywiaeth o brentisiaethau gydag arweinwyr yn y diwydiant, gan roi’r cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan ddatblygu eu sgiliau ar yr un pryd â chael cymorth academaidd ac ariannol.
Dywedodd Harvey fod cyfle i weithio yng nghanolfan gwneud adenydd Airbus yn Sir y Fflint – un o’r cynhyrchwyr mwyaf yn y DU – yn un yr oedden nhw’n awyddus i’w ddilyn.
“Fe ddechreuodd y broses ym mis Hydref, felly mae wedi cymryd peth amser, ond rydyn ni wrth ein boddau i gael y brentisiaeth,” ychwanegodd.
“Mae Airbus yn sefydliad enfawr ac yn lle delfrydol i osod sylfeini ar gyfer ein gyrfaoedd yn y sector.
“Diolch i bawb yn Chweched Iâl am eich cefnogaeth, mae hyn yn mynd i fod yn brofiad anhygoel i ni’n dau.”
Dywedodd Arweinydd Cwricwlwm Chweched Iâl a’r Darlithydd mewn Busnes Safon Uwch, Mel Henry: “Mae’n wych gweld myfyrwyr o Chweched Iâl yn symud ymlaen i brentisiaethau gradd.
“Rydyn ni’n falch o Max a Harvey, a’r ffaith bod eu sgiliau a’u doniau wedi cael eu cydnabod mewn maes mor gystadleuol.
“Rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw ar gyfer y dyfodol ac yn gwybod y byddan nhw’n mynd ymlaen i gael gyrfaoedd gwych.”
Am ragor o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.