Roedd drôn yr ‘Eryr Gwyrdd’ yn gallu adnabod chwyn a phroblemau ar y tir cyn eu targedu nhw â phlaladdwyr, gan arbed amser, arian a darparu dewis amgen carbon niwtral i ddulliau presennol.
Cafodd y prosiect ei arwain gan M-SParc sydd wedi’i leoli yn Sir Fôn. Gweithion nhw mewn partneriaeth â thenantiaid AerialWorx a Fortytwoable – a adeiladodd y model deallusrwydd artiffisial – a BIC Innovation, roedd Uchelgais Gogledd Cymru yn cefnogi’r rhaglen.
Dywedodd Dewi Jones, sef Rheolwr Fferm Coleg Cambria Llysfasi: “Roeddwn i wrth fy modd yn gweld y cynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran cynhyrchu ac addasu’r Eryr Gwyrdd dros y cyfnod eithaf byr o amser oedd gennym ni gyda’r partneriaid.
“Erbyn hyn mae’n ddarn o offer datblygedig sy’n gallu gwneud yr hyn yr oeddwn i wedi’i ddychmygu ar ddechrau’r prosiect. Mae’n dangos yr hyn a allai gael ei gyflawni pan mae pobl o wahanol gefndiroedd a mathau o waith sy’n meddwl am y dyfodol yn gweithio ar syniadau a chysyniadau sy’n dod gyda’i gilydd i ffurfio cynnyrch newydd.”
Ychwanegodd: “Mae’r ffyrdd y gallwn ni ddefnyddio’r Eryr Gwyrdd rŵan ac yn y dyfodol mewn amaethyddiaeth yn eang ac yn amrywiol a dwi’n dymuno’n dda i’r cwmnïau wrth iddyn nhw fynd â’u cyflawniadau a’u syniadau ymlaen i fyd a fydd yn ddi-os yn galw am ddiwydiant ffermio cynhyrchiol a chynaliadwy sy’n addas ar gyfer yr heriau a chyfleoedd yr 21ain ganrif.”
Datgelodd M-SParc fod cynigion ar waith i symud i’r trydydd cam yn dilyn llwyddiant y treialon.
Dywedodd llefarydd: “Roedd hon yn enghraifft wych o gydweithio â thenantiaid ac mae Fortytwoable a BIC Innovation bellach yn gweithio ar gynllun masnacheiddio yn sgil Fortytwoable yn nodi cyfle masnachol newydd o ganlyniad uniongyrchol i’r prosiect yma.”
Ychwanegodd Dyfed Morgan, Swyddog Asesu Cylch Oes a Hyrwyddwr Cynaliadwyedd yn M-SParc: “Fel rhan o’n gwaith fe wnaethom ni gynnal Asesiad Cylch Bywyd i ymchwilio i’r effeithiau amgylcheddol a’r ôl troed sy’n gysylltiedig â phob cam o’r prosiect.
“Dangosodd canlyniad ein hasesiad fod y carbon ymgorfforedig sy’n cael ei allyrru gan y dronau 131 gwaith yn is ar draws eu cylch bywyd na thractor traddodiadol i wneud yr un gwaith, mae’n atgyfnerthu manteision y prosiect yma o safbwynt ôl troed carbon.”
Dywedodd Robyn Lovelock, rheolwr rhaglen bwyd-amaeth a thwristiaeth Bargen Twf Gogledd Cymru: “Roedd yr Eryr Gwyrdd yn un o dair menter Amaeth gwych yr oeddem ni’n falch o’i darparu gyda Choleg Cambria. Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy ei Her Arloesi Ymchwil Busnes System Gyfan ar gyfer Datgarboneiddio.
“Bydd y systemau newydd hyn wedi’u lleoli yn Llysfasi ac yn cael eu datblygu rhagor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y sector amaethyddiaeth a darparu cymorth y mae wir ei angen ar gyfer symud i ddatgarboneiddio.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut fydd y prosiectau hyn yn datblygu yn y dyfodol a dwi’n teimlo’n hyderus y byddan nhw’n helpu’r sector amaethyddiaeth yn y rhanbarth.”