Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

IMG_2027

Mae copi o Restr Anrhydedd Wrecsam a Dwyrain Sir Ddinbych o’r rhai a fu farw yn y Rhyfel Mawr (Y Rhyfel Byd Cyntaf) wedi cymryd ei lle yn llyfrgell Coleg Cambria Iâl.

Yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf Ysbyty Cynorthwyol Roseneath oedd ar y safle cyn iddo gael ei droi’n ysbyty ar gyfer milwyr wedi’u hanafu ac yn hwyrach ymlaen yr Ysbyty Coffa – lle’r oedd yr eitem yn cael ei gadw i ddechrau – o 1926 hyd y nawdegau cynnar pan ddaeth yn Goleg Iâl.

Yna cafodd y rhestr anrhydedd ei symud i Amgueddfa’r Cyngor, lle y bydd yn aros oherwydd ei chyflwr bregus.

Fodd bynnag, gyda chymorth yr amgueddfa, mae gan y coleg gopi corfforol o’r ddogfen ac mae cynlluniau i’w digideiddio yn y dyfodol.

Mae Simon Mapp, Ymgynghorydd Sgiliau Academaidd yn Iâl, yn falch eu bod nhw wedi medru dychwelyd y rhestr anrhydedd i’w “gwir gartref”.

“Roedd y rhestr wreiddiol yn cael ei chadw yn yr ysbyty, sydd erbyn hyn yn floc cerdd y coleg, felly mae’n bwysig iawn i’r ardal leol,” meddai.

“Roedd y llyfrgell yn teimlo, oherwydd bod Sul y Cofio ar y gorwel, ei bod hi’n amser addas i sicrhau bod y llyfr sy’n cofnodi’r holl ddynion ifanc sydd wedi aberthu eu bywydau yn y rhyfel yn 1914-18 yn dychwelyd i’r coleg, roedd rhai o’r dynion ifanc yn ddisgyblion yn Ysgol Parc y Gelli, sydd erbyn hyn yn rhan o safle Iâl.

“Mi fydd ar gael i’w gweld yn y llyfrgell ar gyfer myfyrwyr a staff, felly hoffwn ni ddiolch i Amgueddfa’r Sir, yn enwedig Mark Taylor Cymhorthydd Archif yr amgueddfa, am eu help gyda’r prosiect yma.”

Ychwanegodd Caplan Cambria Tim Feak: “ Mae’r timau llyfrgell ar bob un o’n safleoedd yn gwneud gwaith gwych i godi ymwybyddiaeth ar draws ein cymunedau coleg am faterion a digwyddiadau pwysig iawn.

“Gan gynnwys Sul y Cofio sydd yn andros o bwysig, felly mae cael y rhestr yn Iâl a chael y cyfle i weld enwau’r bobl sydd wedi aberthu eu bywydau ar gyfer ein rhyddid yn ychwanegu haen o ddyfnder a dwyster at ein adyfyrdodau eleni.

“Diolch o waelod calon i Simon am hwyluso hyn, mae’n rhodd werthfawr i’n cymuned.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost