Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

AsdaCAMBRIA2

Bydd myfyrwyr o Goleg Cambria Llaneurgain yn dechrau swyddi llawn amser yn Asda Queensferry o fis Hydref ymlaen.

Y siop yng Nglannau Dyfrdwy fydd y cyntaf yn y cwmni i ymuno â’r cynllun interniaeth, sy’n cael ei arwain gan DFN Project Search.

Mae llai na 4.8% o bobl ag anabledd dysgu* yn mynd ymlaen i sicrhau swyddi llawn amser, felly nod yr elusen yw cefnogi 10,000 o oedolion ifanc ag anabledd dysgu, neu gyflwr sbectrwm awtistiaeth (neu’r ddau) i gael cyflogaeth â thâl erbyn 2030. Mae eisoes wedi helpu mwy na 2,000 o bobl hyd yma.

Bydd Asda Queensferry yn cyflogi grŵp o wyth o ddysgwyr bob blwyddyn i gefnogi rhaglen SBA (Sgiliau Byw’n Annibynnol) y coleg a chryfhau ei safle fel cyflogwr amrywiol a chynhwysol.

Dywedodd Jo Fisher, Cyfarwyddwr Cwricwlwm SBA a Sgiliau Sylfaen yn Cambria y bydd y bartneriaeth yn rhoi synnwyr o gyfrifoldeb a phwrpas i’r grwpiau gan ganiatáu iddynt gynllunio ar gyfer y dyfodol.

“Rydyn ni’n gyffrous iawn am y prosiect yma, mae’n gyfle enfawr i’n myfyrwyr,” ychwanegodd.

“Mae’n anrhydedd mai hon yw’r siop Asda gyntaf yn y DU i gymryd rhan a’u bod nhw wedi ein dewis ni ar gyfer yr interniaeth. Bydd wir yn rhoi hwb i hyder y dysgwyr ac yn helpu i osod y sylfeini ar gyfer eu gyrfaoedd.

“Byddant yn gweithio ar lawr y siop, yn y warws, yn yr adran gwasanaethau cwsmeriaid a swyddi manwerthu eraill, gyda chyfle i symud ymlaen a dysgu sgiliau newydd.

“Mae hon yn gyflogaeth reolaidd ac yn wych i garfan lefel uwch Llwybr 4, gan roi llwyfan iddynt fynd ymlaen ac ennill cyflog, dod yn fwy annibynnol a datblygu sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.

“Fe fyddan nhw’n mynd i weithio mewn gwahanol adrannau i weld pa un sy’n gweddu orau iddyn nhw a bydd gennym ni swyddog cyflogadwyedd ar y safle i’w cefnogi drwy’r amser.

“Gobeithio y bydd hyn yn ymestyn i siopau a sefydliadau eraill yng Ngogledd Cymru a thu hwnt oherwydd ei fod yn gydweithrediad gwych ac yn ysbrydoledig.”

Dywedodd Claire Cookson, Prif Swyddog Gweithredol y DFN Project SEARCH, fod gan oedolion ifanc ag anabledd dysgu a/neu gyflwr sbectrwm awtistiaeth amrywiaeth enfawr o dalent i’w gynnig i gyflogwyr.

“Lle nad yw’r rhan fwyaf wedi’i ddarganfod eto,” ychwanegodd.

“Dyna pam rydyn ni wrth ein bodd yn cynnig y cyfle hwn sy’n newid bywydau, i’r garfan gyntaf o interniaid, a fydd yn cymryd eu camau cyntaf cyn bo hir ar daith DFN SEARCH Project yn Asda Queensferry fis Hydref eleni.”

I gael rhagor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, ewch i https://www.cambria.ac.uk/?lang=cy.

Ewch i www.dfnprojectsearch.org i gael rhagor o wybodaeth am DFN Project Search.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost