Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Llun Drôn o Goleg Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy

Mae Coleg Cambria wedi trefnu digwyddiadau recriwtio ar ei safleoedd Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy, Iâl a Ffordd y Bers yn Wrecsam i ateb y galw am staff newydd.

Mae gan Cambria hyd at 50 o swyddi gwag ar gyfer darlithwyr, cymorthyddion dysgu, swyddi cymorth busnes, gweithwyr bwyty a’r feithrinfa a rhagor.

Mae gan Cambria hyd at 50 o swyddi gwag ar gyfer darlithwyr, cymorthyddion dysgu, swyddi cymorth busnes, gweithwyr bwyty a’r feithrinfa a rhagor.

Fel sefydliad mae Coleg Cambria yn parhau i wasanaethu’r gymuned ac mae’r swyddi hyn yn adlewyrchiad o hynny,” meddai hi.

“Mae cymaint o fuddion wrth weithio yma, o ddiwylliant croesawgar a chynhwysol y coleg, i’r cyfleusterau o’r radd flaenaf, datblygu proffesiynol, rhaglen lesiant, cynllun cydnabyddiaeth, a’r feithrinfa ar y safle a’r campfeydd ac mae pecynnau adleoli ar gael i siaradwyr Cymraeg sy’n dod o du allan i’r ardal.”

Ychwanegodd Diane: “Yn fwy pwysig na dim, mae’n gyfle i ymuno ag un o gyflogwyr blaenllaw Gogledd Cymru ar gyfnod cyffrous wrth ystyried yr adeiladau arloesol sydd ar fin cael eu hagor eleni, rydyn ni’n canolbwyntio ar geisio bod y coleg mwyaf cynhwysol yn y wlad ac amgylchedd sy’n canolbwyntio ar iechyd a hapusrwydd staff a dysgwyr.”

Bydd y nosweithiau agored recriwtio yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:

Ysgol Fusnes Llaneurgain – Dydd Iau 23 Mawrth o 5pm-7pm.

Glannau Dyfrdwy, safle Ffordd y Celstryn – Dydd Mawrth 28 Mawrth o 5pm-7pm.

Wrecsam, Iâl – Dydd Mercher 29 Mawrth o 5pm-7pm.

Ffordd y Bers – Dydd Mercher 29 Mawrth o 5pm-7pm.

“Rydyn ni’n gobeithio bydd pobl yn dod draw i ddarganfod rhagor a gweld pa swyddi sydd ar gael, oherwydd mae cyfleoedd o hyd i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol yma yng Ngholeg Cambria.”

Yn y cyfamser, cafodd y coleg ei ganmol yn ddiweddar gan y Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn – AS dros Delyn – ar ymweliad diweddar, am groesawu Partneriaeth Gymdeithasol, sy’n sicrhau cyn i unrhyw ddewisiadau neu newidiadau mawr gael eu gwneud, y bydd gan rywun sy’n cynrychioli buddiannau staff, gallu darparu gwybodaeth am sut y gallai hynny effeithio arnynt, a herio canlyniadau.

Dywedodd Yana Williams y Prif Weithredwr: “Mae rhoi llais blaenllaw mewn gwneud penderfyniadau strategol yn helpu rheolwyr i wneud penderfyniadau mwy effeithiol ac o ansawdd uwch.

“Wrth weithio gyda’n gilydd mewn ysbryd o gydweithio a chydweithredu byddwn ni’n datblygu’n rhagor fel coleg, mewn partneriaeth â’n cymuned a rhanddeiliaid mewn sectorau preifat a chyhoeddus.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria.

I gael rhagor o wybodaeth am y nosweithiau agored recriwtio, anfonwch e-bost at recruitment@cambria.ac.uk neu ewch i Eventbrite i gofrestru.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost