main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

ChesterPride23

Bydd y coleg yn y gogledd ddwyrain yn noddi Parth Pobl Ifanc yn nigwyddiad Pride Caer eleni.

Bydd yr ŵyl am ddim yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 17 Awst ac unwaith eto yn croesawu degau ar filoedd o bobl i’r ddinas, gan helpu i gynhyrchu dros £2 filiwn ar gyfer yr economi leol.

Mae Swyddogion Ymgysylltu Llais Myfyrwyr Mark-Ryan Hughes a Robert Jones, a Chydlynydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Alice Churm, yn falch o ddangos eu cefnogaeth ar gyfer y parêd ers iddyn nhw gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28, sy’n canolbwyntio ar wella cysylltiadau gyda’r gymuned, ymgysylltu â dysgwyr a staff, ac ymgyrchu i gael coleg mwy cyfartal a chynhwysol i bawb.

“Mae Coleg Cambria yn falch iawn o noddi Pride Caer am yr ail flwyddyn! Rydyn ni’n cydnabod pa mor bwysig ydy’r ŵyl i’n dysgwyr a staff i gael cyfleoedd i ddathlu pride a’i bwysigrwydd i’r gymuned LHDTC+,” meddai Alice.

“Mae llawer o staff a myfyrwyr Coleg Cambria yn uniaethu fel LHDTC+ ac rydyn ni’n eu cefnogi nhw i gofio hanes pwysig Pride a pharhau i frwydro am gynhwysiant a bod pawb yn cael eu derbyn.”

Mae’n cael ei chynnal yng nghanol y ddinas, ac yn cynnwys parêd lliwgar ac adloniant a gwerthwyr bwyd a diod ac ardaloedd penodol a gweithgareddau i deuluoedd a phobl o bob oed.

Bydd dwsinau o arddangoswyr yno yn cynnig gwybodaeth, arweiniad a chyngor, a bydd y babell lesiant Just Ask yno i gyfeirio unrhyw un sydd â phryderon neu broblemau at sefydliadau a gwasanaethau fel cwnsela cyfoedion, a chyfeillio.

Dywedodd cadeirydd Pride Caer Warren Lee Allmark: “Rydyn ni’n falch o gael cefnogaeth Coleg Cambria unwaith eto. Mae cael un o addysgwyr blaenllaw’r ardal yn allweddol i sicrhau bod pobl yn rhydd i ddysgu am hawliau LHDT a’r anghydraddoldebau rydyn ni’n dal i’w hwynebu.

“Mae eu cefnogaeth wedi golygu ein bod ni wedi gallu dyblu maint ein parth pobl ifanc sy’n hollol am ddim i ymwelwyr, sy’n allweddol.”

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at cydraddoldebacamrywiaeth@cambria.ac.uk.

I ddarganfod rhagor am ŵyl Pride Caer eleni, ewch i: Chester Pride 2024 | Chester Pride.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost