Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

studentservicescambria

Cambria oedd un o’r 10 coleg cyntaf yn y DU i ennill y dystysgrif QSCS (Safon Ansawdd mewn Cymorth i Ofalwyr) gyntaf erioed yn 2020, ac mae wedi cael ail achrediad gan y Ffederasiwn Gofalwyr.

Roedd enghreifftiau o arfer dda yn cynnwys cynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu a rhoi adborth; adolygiad ac ystyriaeth ragweithiol a pharhaus am sut i ddatblygu a gwella yn ogystal â gweithio a chyfathrebu’n draws-golegol er mwyn sefydlu dull cydlynol o gynorthwyo oedolion ifanc sy’n ofalwyr.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae dros 22,500 o ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr yng Nghymru – mae hyn cyfwerth a bron i 2 o ofalwyr ymhob dosbarth – ac mae data cenedlaethol yn nodi eu bod tair gwaith fwy tebygol o fod yn NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) na phobl ifanc eraill, ac yn bum gwaith fwy tebygol o roi’r gorau i’r coleg.

Roedd Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr Coleg Cambria, Bethan Charles, yn canmol y staff a wnaeth llawer o waith er mwyn sicrhau’r gydnabyddiaeth.

“Mae llawer o’r clod yn mynd i’n tîm Cefnogi Myfyrwyr am eu gwaith caled, yn arbennig Greg Otto a Becky Preece,” meddai Bethan.

“Fel coleg rydyn ni wedi dangos gwelliant yn ein darpariaeth ar gyfer gofalwyr ifanc, yn y ffordd rydyn ni’n eu hadnabod ac yn adnabod eu hanghenion. Rydyn ni wedi ffurfio grwpiau ffocws, wedi cynyddu cynrychiolaeth ar gyrff cymunedol ac wedi ffurfio partneriaethau newydd.

“Mae ein gofalwyr ifanc hefyd yn cael mewnbwn i’r polisïau rydyn ni wedi’u cyflwyno ac yn eistedd ar baneli cyfweld ar gyfer staff yn y maes hwn. Mae hyn yn bwysig ac yn rhoi llais iddyn nhw mewn perthynas â’r materion sy’n eu hwynebu ac wrth ystyried sut y gallwn ni rhoi strategaethau effeithiol ar waith gyda’n gilydd er mwyn iddyn nhw allu cyflawni eu nodau addysg.”

Dywedodd Bethan: “Rydyn ni’n falch o fod wedi ennill ail achrediad ac mae gennym ni ragor o gynlluniau a syniadau ar gyfer cefnogaeth i oedolion ifanc sy’n ofalwyr eleni. Fel tîm, byddwn ni’n parhau i weithio’n galed er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac i gael gwared ar rwystrau i lwyddiant.”

Dywedodd y Ffederasiwn Gofalwyr fod y coleg wedi “parhau i ddarparu a datblygu cefnogaeth i oedolion ifanc sy’n ofalwyr”, gan ychwanegu: “Mae llwybrau cyfathrebu effeithiol rhwng gwahanol dimau staff, a monitro parhaus o oedolion ifanc sy’n ofalwyr a’r garfan gyfan er mwyn sicrhau bod myfyrwyr sy’n ofalwyr yn cael y cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.

“Mae tystiolaeth amlwg o ymrwymiad strategol i ofalwyr a chydweithio arbennig i’w weld gan y tîm Gwasanaethau Myfyrwyr. Cafodd ei nodi bod helpu gweithwyr gyda’u llwyth gwaith, datblygiad proffesiynol, a llesiant yn gwella’r gwasanaeth y maen nhw’n eu cynnig i fyfyrwyr.

“Mae gan y coleg amrywiaeth o ddulliau sy’n cael eu defnyddio i annog myfyrwyr i ymgysylltu a rhoi adborth ar draws holl boblogaeth y coleg. Yn ogystal ag adborth gofalwyr wedi’i dargedu roedd yn amlwg trwy gydol yr asesiad bod cyfranogiad myfyrwyr yn cael ei werthfawrogi wrth lywio datblygiadau a gwelliannau.

“Mae Coleg Cambria wedi dangos ei ymrwymiad parhaus i helpu oedolion ifanc sy’n ofalwyr i gyfrannu’n llawn i fywyd y coleg a chyflawni.”

Ewch i Cymorth i Fyfyrwyr < Coleg Cambria i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael i ddysgwyr yn y coleg.

I gael rhagor o wybodaeth am y QSCS ewch i’r wefan: Cyflwyniad i’r Achrediad QSCS – Ffederasiwn Gofalwyr

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost