Bydd y Strategaeth Sgiliau Technegol Uwch yn cael ei lansio ym mis Ionawr gyda’r nod o wella mynediad a chyfranogiad, annog datblygu’r cwricwlwm ac arloesi, a meithrin partneriaethau mewn nifer o ddiwydiannau i lenwi bylchau mewn arbenigedd a phrofiad.
Dywedodd Deon Mynediad ac Addysg Uwch (AU) Cambria, Emma Hurst, bod darparu mwy o gyfleoedd i gymunedau yng ngogledd ddwyrain Cymru a thu hwnt – yn enwedig grwpiau heb ddigon o gynrychiolaeth – yn galluogi’r coleg i roi llwyfan i ddarpar fyfyrwyr i’w ddilyn neu symud ymlaen yn eu dewis yrfaoedd.
“Mae ehangu mynediad a chyfranogiad yn ffocws arbennig gan fod llawer o oedolion a oedd efallai’n teimlo bod addysg uwch y tu hwnt i’w cyrraedd,” meddai Emma.
“Rydyn ni’n gallu bod yn fwy hyblyg trwy rannu dysgu yn fodiwlau, a gall pobl deilwra’r hyn maen nhw’n ei wneud i ddiwallu eu hanghenion, boed hynny ar-lein neu wyneb yn wyneb.
“Mae gennym ni lu o raglenni AU llawn amser o hyd ond bydd hyn yn agor ein harlwy i fwy o bobl, fel y gallan nhw ei greu yn gymhwyster, yn enwedig gweithwyr heb lawer o amser rhydd neu ddysgwyr sy’n dychwelyd i addysg.”
Bydd pynciau newydd yn cael eu cyflwyno – mewn cydweithrediad â grŵp dysgu Pearson – o fis Medi, yn ogystal â phecynnau modiwlau, unedau a darpariaeth gyfunol.
Bydd y tîm Sgiliau Technegol Uwch hefyd yn ceisio cyflwyno rhagor o raglenni addysg bellach i gefnogi dilyniant i’w raglenni.
Dywedodd Donna Pritchard, Rheolwr Partneriaethau a Chydymffurfiaeth AU, eu bod yn dylunio ac yn datblygu’r cwricwlwm gan ganolbwyntio ar feysydd sgiliau blaenoriaeth Medr – y sefydliad sy’n gyfrifol am ariannu a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru – sef Iechyd, Peirianneg, a Digidol, yn ogystal â thwf y portffolio Prentisiaethau Gradd presennol.
Byddant hefyd yn ceisio hyrwyddo Digidol 2030, sgiliau digidol, hyder ac arloesedd mewn addysgu a dysgu; arfogi dysgwyr fel “gweithlu’r dyfodol” sy’n gallu defnyddio technolegau sy’n esblygu’n gyflym i’w llawn botensial, gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial.
“Rydym am i Sgiliau Technegol Uwch ddod yn flaenoriaeth mewn byrddau cynghori cyflogwyr a llywio’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm a chyd-greu, gan sicrhau bod rhaglenni’n cael eu teilwra i fodloni gofynion esblygol y farchnad lafur leol,” meddai Donna.
“I wneud hynny, byddwn ni’n cynyddu nifer y cysylltiadau strategol gyda chyflogwyr ar draws sectorau allweddol Gogledd Cymru i gyd-ddylunio rhaglenni dysgu hyblyg fel rhan o berthynas waith agosach rhyngddyn nhw a’r coleg.”
Ychwanegodd Emma: “Trwy feithrin cydweithrediad rhwng Coleg Cambria, busnesau, llywodraeth leol, a sefydliadau cymunedol, byddwn ni’n gallu gwneud y mwyaf o effaith sgiliau uwch ar ddatblygiad economaidd rhanbarthol a chydlyniant cymdeithasol wrth ymateb i economi deinamig sy’n newid.
“Ein gweledigaeth ydy tynnu rhwystrau at addysg a helpu i uwchsgilio mewn meysydd lle mae galw, wrth dargedu meysydd polisi allweddol gan gynnwys sero net a’r Gymraeg – mae’r strategaeth hon yn sylfaen ar gyfer cyflawni hynny.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.cambria.ac.uk a dilynwch Goleg Cambria ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fel arall, ffoniwch 01978 515477 neu anfonwch e-bost at he@cambria.ac.uk.