Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

CareersAward2

Mae tîm Twf Swyddi Cymru+ yng Nglannau Dyfrdwy wedi cael eu canmol am gyflwyno strategaeth hir dymor i ddarlithwyr, dysgwyr a gweithwyr cymorth yn y coleg.

O ganlyniad i brosiect peilot yr adran, maent wedi ennill Gwobr Datblygu Gyrfaoedd gan Gyrfa Cymru.

Cafodd y wobr ei dylunio er mwyn adnabod “ymrwymiad” sefydliad addysg “i wella safonau yn barhaus” a bodloni hawl statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru.

Er bod sefydliadau yn gallu ennill y wobr ar ôl gweithio tuag at hynny am flwyddyn, mae’r ymrwymiad yn para tair blynedd ac yn cynnwys proses gylchol o archwilio’r ddarpariaeth cymorth gyrfaoedd cyfredol, hunan-arfarnu a gweithredu cynllun i ddatblygu hyn yn rhagor.

Mae Mentor Cyflogadwyedd ac Arweinydd Cwricwlwm Twf Swyddi Cymru+ Paula Blundell, a Samantha Moore, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Twf Swyddi Cymru+, wedi arwain y rhaglen ar gyfer Cambria ers mis Ionawr.

“Rydyn ni’n falch iawn i fod y rhai cyntaf yn Cambria i fynd i’r afael â hyn oherwydd yn y dyfodol bydd bob rhan o’r coleg yn dilyn yr un drefn,” meddai Paula.

“Roedd hi’n gyfle i ni ganolbwyntio ar anghenion cyflogadwyedd, adfyfyrio ar ein dull a safonau i staff a myfyrwyr – ac i edrych yn ôl ar beth rydyn ni’n ei wneud yn dda a lle gallwn ni wella.

“Roedd hi’n ymarfer hynod o ddefnyddiol a bydd yn ein galluogi i fod yn hyd yn oed mwy effeithlon yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Samantha: “Roedd yn cynnwys popeth o’n darpariaeth Cymraeg i iechyd a diogelwch a deddfwriaeth eraill ac i ddilyn hynny roedd cynllun a oedd yn targedu meysydd penodol er mwyn i ni allu creu gweithredoedd penodol i’n tîm a’r arweinwyr.

“Gwnaethom ni ganolbwyntio ar y Gymraeg, rhifedd, llythrennedd, a llesiant a gwytnwch yn sgil heriau’r pandemig.

“Bydd hyn o fudd mawr i’n staff a myfyrwyr felly hoffwn ni ddiolch yn fawr i Gyrfa Cymru am eu cymorth ac am y wobr hon.”

Dywedodd Mark Owen, Pennaeth Gwasanaethau i Randdeiliaid Gyrfa Cymru: “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cyflwyno Gwobr Datblygu Gyrfaoedd i Goleg Cambria eleni.

“Mae’n bwysig iawn bod y rhai sy’n parhau i addysg ôl-16 yn cael yr arweiniad a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i gynllunio eu gyrfaoedd yn y dyfodol yn effeithiol.

“Mae llawer o fuddion wrth weithio gyda’n cydlynwyr Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith i ddatblygu rhaglen gyrfaoedd a byd gwaith cadarn, gan gynnwys gwella hunan-barch pobl ifanc, cynyddu eu harchwiliad gyrfa a gwella eu sgiliau archwilio gyrfa a gwneud penderfyniadau a datblygu canlyniadau addysgol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at barhau i weithio’n agos gyda Choleg Cambria i’w cynorthwyo i ddatblygu cymorth gyrfaoedd i’w myfyrwyr.”

Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria.

Am ragor am Gyrfa Cymru, ewch i’w gwefan: www.careerswales.gov.wales

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost