Mae darlithwyr a staff ar gael gydag arweiniad a chyngor i unrhyw un sy’n pryderu am eu graddau ac i drafod opsiynau a chyfleoedd wrth symud ymlaen.
Mae’r coleg hefyd yn cynnal diwrnod agored yfory (dydd Gwener) rhwng 9am a 3pm ar draws ei safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llaneurgain a Llysfasi ar gyfer unrhyw un sydd am ddechrau cwrs newydd ym mis Medi.
Dywedodd y Pennaeth Sue Price y bydd Cambria yn gwneud popeth o fewn ei allu i roi tawelwch meddwl i ddisgyblion a’u helpu i gymryd y camau nesaf ar eu taith academaidd.
“Rydyn ni yma i unrhyw un sydd angen cyngor ar ein cyrsiau a chyfleoedd eraill yng Ngholeg Cambria,” meddai.
“Mae ein staff ymroddedig yn prosesu ceisiadau ac yn siarad â dysgwyr a’u teuluoedd cyn mis Medi, maen nhw yma i roi awgrymiadau a gwybodaeth am Safon Uwch, prentisiaethau, rhaglenni yn y gwaith a rhagor.”
Ychwanegodd Mrs Price: “Cofiwch gysylltu os oes gennych chi unrhyw bryderon, mae gennym dîm gwych a gofalgar yma sy’n barod i gynnig cefnogaeth ar y camau nesaf a’r ffordd orau ymlaen yn dilyn eich canlyniadau TGAU.”
Bydd cyfleuster sgwrsio byw ar gael hefyd, a gall dysgwyr a’u teuluoedd gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf drwy wefan Cambria a sianeli’r cyfryngau cymdeithasol.