Background Splash

Gan Alex Stockton

socialpartnershipcambria 2

Dechreuodd Wythnos Caru Undebau ar ddydd Llun (10 Chwefror) sef ymgyrch i ddathlu’r symudiad undebau llafur a’r pum miliwn a mwy o bobl yn y DU sy’n aelodau ohonynt.

Mae’r coleg sydd gyda safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain wedi cael ei ganmol am ei ddiwylliant o ran Partneriaeth Gymdeithasol sy’n sicrhau bod yna rhywun ar gael i gynrychioli diddordebau pobl ar gyfer unrhyw ddewisiadau neu newidiadau mawr ac i allu rhoi gwybodaeth am yr effaith posib arnyn nhw ac i herio canlyniadau.

Mae gweithwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan fwy blaenllaw yn y broses o wneud penderfyniadau ac i gyfathrebu gyda chynrychiolwyr yr undebau. Mae gwybodaeth yn cael ei rannu trwy fewnrwyd a sianeli cyfathrebu mewnol Cambria.

Dywedodd Prif Weithredwr Cambria, Yana Williams: “Rydym wrth ein bodd yn gallu dathlu rôl dyngedfenol yr undebau llafur wrth siapio ein bywyd gwaith – ar raddfa genedlaethol ac yma hefyd yn y coleg.

“Yn genedlaethol mae cefnogaeth yr undebau wedi bod yn allweddol gyda sicrhau cytundebau gwaith cadarn ac amodau tâl teg gan sicrhau fod ein safonau proffesiynol yn parhau i wella.

“Yn lleol mae gennym gynrychiolwyr undeb wedi ymrwymo i’r coleg ac sydd wedi gweithio i fynd i’r afael ag ystod eang o broblemau.

“Mae eu hymdrechion ar y cyd wedi arwain at well mesurau iechyd a diogelwch, patrymau gwaith a threfniadau gwyliau mwy hyblyg, a’r cyfan wedi cyfoethogi ein hamgylchedd gwaith ac atgyfnerthu lles pawb.”

Meddai arweinydd y Bartneriaeth Gymdeithasol, David Schwarz: “Wrth wraidd y cyflawniadau hyn yw ein hymrwymiad i’r ‘Ffordd Gymreig’ o bartneriaeth gymdeithasol.

“Mae’r naws hwn o gydweithio yn sicrhau fod safbwyntiau amhrisiadwy ein cydweithwyr ac aelodau’r undebau bob tro yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau gan ein harwain ni at wneud y dewisiadau gorau ar gyfer dyfodol ein coleg.

“Gyda’n gilydd rydym yn gweithio tuag at ddyfodol mwy teg sy’n seiliedig ar barch a chydweithio ar y cyd a phartneriaeth gymdeithasol o’r radd flaenaf ar gyfer ein holl gydweithwyr.”

Yn 2022 roedd Coleg Cambria yn rhan o gynllun peilot wnaeth helpu i sefydlu’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) gyda’r nod i wella lles economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru wrth gyflwyno’r egwyddor o bartneriaeth gymdeithasol wrth weithredu cyrff cyhoeddus ledled y wlad.

Am fwy o wybodaeth ar Wythnos Caru Undebau: About HeartUnions week | TUC Dilynwch #CaruUndebau ar gyfryngau cymdeithasol.

Am fwy o wybodaeth ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): https://www.llyw.cymru/deddf-partneriaeth-gymdeithasol-chaffael-cyhoeddus-cymru

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost