Yn ychwanegol at ddigwyddiadau a gweithgareddau Diwrnod Iechyd Meddwl y Bydd ac Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl – a gafodd eu cynnal yn gynharach eleni – mae’r coleg wedi trefnu rhaglen pum niwrnod o sesiynau llesiant a hunanofal ym mis Tachwedd.
Bydd pob un o bum safle Cambria – yn Wrecsam, Llysfasi, Llaneurgain a Glannau Dyfrdwy – yn croesawu sefydliadau partner, elusennau, a siaradwyr gwadd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
Dywedodd Cydlynydd Iechyd Meddwl a Llesiant, Levi Jamieson: “Yn dilyn llwyddiant ein rhaglen Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, gyda channoedd o staff a dysgwyr wedi dod i’r digwyddiadau, rydyn ni’n gobeithio y bydd y sesiynau hyn sydd ar ddod yn cael effaith gadarnhaol, gan helpu i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau a allai fod gan bobl a chynnig cymorth hollbwysig.
“Mae’n adeg hollbwysig i fyfyrwyr am fod y flwyddyn academaidd newydd ddechrau, maen nhw’n dechrau dod i arfer gydag amgylchedd newydd, yn cyfarfod pobl newydd, ac yn ymdrochi yn eu hastudiaethau.
“Mae llawer wedi teimlo’n unig ac yn orbryderus – yn arbennig o ystyried y pandemig a phwysau’r cyfnod diweddar – felly roedden ni eisiau mynd i’r afael a’r heriau hyn a rhoi arweiniad a chyngor, yn ogystal â threfnu gweithgareddau hwyliog a chreadigol i wneud iddyn nhw wenu.”
Mae celf, crefft a byw’n iach wedi bod wrth wraidd digwyddiadau diweddar, gan gynnwys modelu clai, paentio cerrig, gwneud gemwaith, mosaig, disgo tawel, pêl-droed, cerfio pren, sesiynau paned a chacen, a rhagor.
Mae’r rhaglen sydd i ddod yn cael ei chynnal 11 a 15 Tachwedd a bydd yn cynnwys gweithgareddau iechyd a llesiant, prosiectau rhyngweithiol i dynnu rhwystrau a stigma ynghylch iechyd meddwl, a chroesawu enwau adnabyddus y sector, fel Groundwork North Wales, the Charlie Waller Trust, Gwasanaeth Atal Digartrefedd Ymhlith Ieuenctid, AVOW, ac Uned Diogelwch Cam-drin yn y Cartref.
“Rydyn ni eisiau annog pobl i siarad am eu hiechyd meddwl a normaleiddio hynny, wrth gyfeirio at ein gwasanaethau a gwasanaethau ein partneriaid allanol, sy’n gwneud cymaint o waith anhygoel yn y gymuned,” meddai Levi.
“Mae’r sesiynau creadigol bob amser mor gadarnhaol ac mae’n galonogol gweld pobl yn ymgolli yn y paentio a’r creu. Mae’n rhoi rhyddhad iddyn nhw ac mae’n gyfle i siarad ag eraill a allai fod yn yr un sefyllfa, yn aml pobl nad ydyn nhw efallai wedi cwrdd â nhw o’r blaen.”
Dywedodd hefyd: “Mi fyddwn ni’n cydweithio gyda Cambria Heini i annog dysgwyr i feddwl am eu hiechyd corfforol ac ymarfer corff, a bydd y cŵn therapi a’r tylluanod sydd bob amser yn boblogaidd yn bresennol yn ystod yr wythnos.
“Mae ein tîm anhygoel yma drwy’r flwyddyn i’n myfyrwyr a’n staff, ond dyma gyfle arall i ddod a phobl at ei gilydd a dangos iddyn nhw nad ydyn nhw ar eu pen eu hun, ein bod ni yma – mae Cambria eisiau gofalu am ei fyfyrwyr a’i staff, ac mae pawb yn ffynnu mewn amgylchedd croesawgar, cefnogol mor bwysig.”