Bydd Coleg Cambria – sydd newydd ennill statws Canolfan Ragoriaeth WorldSkills UK – yn arddangos sgiliau gweithwyr metel ifanc dawnus o bob rhan o’r DU pan fyddant yn cynnal Rownd Derfynol Genedlaethol Technoleg Gwaith Llenfetel y Cystadlaethau Sgiliau Peirianneg
Mae’r gystadleuaeth flynyddol hon yn dod ar ddiwedd y rhagbrofion rhanbarthol lle’r oedd 35 o gystadleuwyr yn profi eu sgiliau drwy gydol 2022 er mwyn cystadlu ar gyfer lle yn y rownd derfynol.
Bydd naw cystadleuydd dawnus o bob rhan o’r DU yn cynrychioli arweinwyr y diwydiant yn ystod y digwyddiad pedwar diwrnod ar safle Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria sy’n dechrau ddydd Mawrth (15 Tachwedd). Byddant yn defnyddio eu sgiliau i gynhyrchu popty pitsa o ddur gwrthstaen.
Bydd y prosiectau prawf terfynol yn cael eu marcio a’u beirniadu gan banel o arbenigwyr technoleg gwaith llenfetel.
Bydd myfyrwyr Gwneuthuro a Weldio o’r coleg hefyd wrth law yn y gweithdy i gynorthwyo cyfranogwyr. Bydd hyn yn ei dro yn rhoi profiadau gwneuthuro bywyd go iawn gwerthfawr i’r myfyrwyr.
Ar hyn o bryd mae’r digwyddiad yn cael ei ariannu gan bartner trefnu’r gystadleuaeth, Cystadlaethau Sgiliau Peirianneg, gyda chymorth rhai o’r noddwyr mwyaf gan gynnwys AMADA UK, Air Products, Lincoln Electric, Skillcraft (INFERNO), Rivtex, Lester Claddings a Cambria ei hun.
Mae Gareth Phillips, Swyddog Hyfforddi Dechnegol yng Nglannau Dyfrdwy, yn falch iawn o groesawu goreuon y sector i weithdai blaengar gwneuthuro a weldio’r coleg yng ngogledd ddwyrain Cymru.
“Roedd y gystadleuaeth hon yn flaenorol yn rhan o WorldSkills ond erbyn hyn yn ddigwyddiad ar wahân. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld sut y bydd pethau’n datblygu,” meddai Gareth, cyn brentis Cambria ac enillydd medal arian WorldSkills.
“Mae gennym weithwyr llenfetel yn dod o rhai o’r busnesau gorau sydd i’w cael ac felly mae’r safon yn sicr o fod yn uchel iawn.
“Mae’n fraint i ni gael ein dewis i gynnal y digwyddiad ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb.”
David Vaughan oedd yn gyfrifol am ddechrau’r sefydliad Cystadlaethau Sgiliau Peirianneg yn ogystal â’r Gystadleuaeth Technoleg Gwaith Llenfetel a’r Rownd Derfynol Genedlaethol. Daw â 53 mlynedd o brofiad o drefnu a chystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol i’r panel beirniadu.
“Rydym yn falch iawn o gael dychwelyd i Goleg Cambria unwaith eto a does unman gwell na Chanolfan Rhagoriaeth WorldSkills i gynnal ein Rownd Derfynol Genedlaethol,” meddai.
“Gyda’r cyfoeth o dalent sydd gan ein cystadleuwyr, rydym yn disgwyl i’r digwyddiad fod yn arddangosiad arbennig o sgiliau technoleg gwaith llenfetel. Maent wedi datblygu a mireinio eu sgiliau yn ystod eu prentisiaethau, ynghyd â chymorth gan gwmnïau a sefydliadau masnachol eraill.
“Bydd y gystadleuaeth yn digwydd ar yr un pryd â digwyddiadau cenedlaethol WorldSkills UK, sy’n cynnwys dros 60 o gystadlaethau eraill ar draws chwe safle yn y DU. Bydd portffolio cystadlaethau WorldSkills UK yn cael ei adolygu yn dilyn y digwyddiadau diweddaraf hyn ac rydym yn gobeithio y caiff technoleg gwaith llenfetel ddychwelyd i’r llwyfan cystadlu rhyngwladol yn y dyfodol.”