Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

COLEG CAMBRIA is working hard to bring education to its communities and support more adult learners than ever post-pandemic

Roedd y coleg yn cynnal sesiynau sgiliau hanfodol mewn lleoliadau ar draws y gogledd-ddwyrain cyn cael ei orfodi i symud sesiynau ar-lein neu roi’r gorau iddynt yn llwyr wrth i Covid-19 ledu drwy’r DU.

Erbyn hyn, dan arweiniad Cyfarwyddwr Cwricwlwm Cambria ar gyfer Sgiliau Dysgu yn y Gwaith ac Addysg Oedolion, Claire Howell, a’r Swyddog Cyswllt Addysg Oedolion, Dean Nolan, mae’r coleg yn darparu cyfres o wersi Saesneg, Mathemateg a Llythrennedd Digidol. Mae’r gwersi yn cael eu cynnal mewn canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau allgymorth yn Wrecsam a Sir y Fflint ac mae’r coleg wrthi’n chwilio am safleoedd newydd er mwyn gallu helpu fwy o bobl nag erioed.

Mae Dean yn brysur yn ffurfio partneriaethau newydd ar draws y rhanbarth yn dilyn Wythnos Addysg Oedolion ym mis Medi – lle cafodd sesiynau galw heibio eu cynnal yn Shotton, Gwersyll a Brynteg. Roedd Dean yn diolch i Gyrfa Cymru, Cyngor ar Bopeth a rhanddeiliaid eraill am eu harweiniad a’u cyfeiriadau.

Dywedodd Dean “Rydyn ni wedi gweld cynnydd yn niferoedd y rhai sy’n cymryd rhan. Mae dosbarthiadau Saesneg a Mathemateg newydd wedi dechrau yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig Riverside Shotton. Mae ymateb cadarnhaol wedi bod i’r gwersi er nad oedd rhai’n arfer cael eu cynnal yno,”

“Mae galw mawr mewn rhai ardaloedd ac rydyn ni eisiau eu cynorthwyo gan fod llawer o bobl yn cymryd rhan mewn sesiynau yn yr ardaloedd hynny cyn Covid. Yn anfoddus yn ystod y pandemig doedden ni’n methu gwneud dim i’w cynorthwyo mewn person.

“Mae yna awydd am y cyrsiau hyn, yn enwedig ymhlith pobl ifanc sydd eisiau uwchsgilio neu symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Mae’r cyrsiau wedi’u hachredu ac felly yn gallu helpu pobl i ddatblygu neu ennill swyddi.”

Aeth Dean ymlaen i ddweud: “Bydd sesiynau hefyd yn cael eu cynnal gyda’r nos yn Iâl ac yng Nglannau Dyfrdwy. Bydd gwersi hyblyg ar-lein yn cael eu cynnal ar gyfer y rhai sy’n methu â bod yno mewn person.

“Mae’r holl gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn ac ar hyn o bryd mae gennym ni hyd at 250 o bobl yn cymryd rhan yn Wrecsam ac yn Sir y Fflint, gyda niferoedd ar fin codi.”

Yn ogystal â darpariaeth academaidd roedd Cambria wedi cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynnal digwyddiadau ‘Coginio, Arbed, Dysgu’. Roedd y sesiynau yn cyflwyno sgiliau sylfaenol fel sut i ddarllen cynhwysion, sut i gyllido a syniadau dietegol i unigolion sydd ddim mewn addysg na chyflogaeth.

Dywedodd Claire bod cyfleoedd i gynyddu’r nifer o raglenni a lleoliadau ar draws y rhanbarth yn y dyfodol.

“Mae’r ffaith bod y sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar yn yr ardal leol wedi eu gwneud yn hynod o boblogaidd,” meddai.

“Byddwn ni wrth ein boddau yn clywed gan unigolion sydd eisiau datblygu eu haddysg yn ogystal â grwpiau a safleoedd cymunedol sy’n teimlo y byddai’r cynllun o fantais iddyn nhw.

“Rydyn ni’n gobeithio ehangu’r rhaglen yn y pen draw a rhoi sylw i’r angen mewn partneriaeth â thiwtoriaid ac asiantaethau allanol gan weithio ar y cyd i gynorthwyo dysgwyr sy’n oedolion yn y rhanbarth.”

Cysylltwch â ni ar 0300 3030 007 neu skillsforadults@cambria.ac.uk os ydych chi am ymuno.

Am ragor o newyddion a gwybodaeth o Goleg Cambria ac i weld prosbectysau ar-lein, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost