Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

FoodPassport

Mae Coleg Cambria, sydd â safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain, wedi cymeradwyo’r fenter Pasbort Gyrfaoedd mewn Bwyd a Diod, a fydd yn darparu hyfforddiant a chymwysterau mewn meysydd sy’n cynnwys trin bwyd, iechyd a diogelwch ac ymwybyddiaeth o alergenau.

Aeth Kate Muddiman, Rheolwr Dysgu yn y Gwaith Coleg Cambria, i lansiad y cynllun yn Nhŷ’r Cyffredin yn Llundain a dywedodd “Mae galw mawr am staff yn y maes hwn. Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun hwn o werth wrth geisio llenwi swyddi gwag ac yn y cyfamser yn rhoi cyfleoedd i ymgeiswyr ar ffurf profiad ac addysg.

“Mae nifer o gwmnïau mwyaf y DU wedi ymrwymo i’r cynllun. Bydd y rhan helaeth o’r dysgu yn digwydd ar-lein ac felly bydd yn ffordd hygyrch a hyblyg i ymchwilio i’r hyn sydd gan y diwydiant i’w gynnig yn ogystal â’r hyn sy’n digwydd y tu hwnt i’r maes.

Ychwanegodd: “Yn Cambria mae gennym ni gysylltiadau da â’r sector, yn ein hardal ac yn genedlaethol. Rydyn ni’n falch i gefnogi’r cynllun hwn a chwarae ein rhan i hyrwyddo’r gyrfaoedd anhygoel sydd i’w cael yn y maes bwyd a diod.”

Wedi’i lansio gan yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (NSAFD) a’r Ffederasiwn Bwyd a Diod (FDF), bydd y Pasbort Gyrfaoedd mewn Bwyd a Diod yn cwtogi’r amser mae’n ei gymryd i greu rhestr fer ar gyfer cyfweliadau ac amseroedd y drefn ymsefydlu. Bydd hyn yn ei dro yn arbed amser ac arian i weithgynhyrchwyr gan gyflymu’r broses i weithwyr newydd sy’n awyddus ac yn ymroddedig.

Ar hyn o bryd mae 6.3 o swyddi gwag i bob 100 o gyflogwyr yn y maes gweithgynhyrchu bwyd a diod – 50% yn fwy na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r fenter hon yn gam pwysig er mwyn helpu’r diwydiant i ddatrys y broblem hon.

Dywedodd Louise Cairns, Prif Weithredwr yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod, “Mae’r Pasbort Gyrfaoedd yn cynrychioli newid yn y ffordd y mae’r diwydiant yn creu cyfleoedd i unigolion talentog, awyddus. Mae’n amlygu’r ffaith bod deiliaid pasbort wedi gwneud y penderfyniad i geisio gyrfa yn y maes bwyd a diod a’u bod wedi gweithio’n galed i brofi hynny.

“Mae’r nifer o gwmnïau sy’n cydnabod gwerth y Pasbort ar gyfer eu busnesau ac i ymgeiswyr yn tyfu o hyd.

Rydym, ochr yn ochr â’r FDF, wrth ein boddau gyda’r diddordeb a’r cyfranogiad gan y diwydiant hyd yma. Rydym yn sicr y bydd lansiad swyddogol y Pasbort yn ei wneud yn rhan gyfarwydd o strategaethau recriwtio yn y dyfodol.”

Mae Mars, Coca-Cola, Britvic, Pukka a Premier Foods ymysg y busnesau sydd ynghlwm â’r prosiect.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan:www.fdcp.co.uk.

Am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost