Mae Zach Chapman yn unigolyn ysbrydoledig sydd â’r nod o helpu pobl o bob oed i gyrchu iechyd a ffitrwydd ar ôl y pandemig. Yn dilyn ei brofiad personol o dreulio cymaint o amser yn hunan ynysu yn ystod y cyfnod clo.
Cafodd Zach, o Gei Connah, ei eni gyda pharlys yr ymennydd atacsig, sef anhwylder datblygu sy’n effeithio ar weithrediad echddygol, caiff ei adnabod gan broblemau gyda chydbwysedd a chydsymud.
Gwnaeth Zach gyfaddef mai mewn teledu a gemau fideo oedd ei ddiddordebau pan roedd yn ei arddegau. Rŵan yn 21 oed, mentrodd Zach i’r byd chwaraeon am y tro cyntaf gyda sesiynau pêl-droed wythnosol yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy.
Aeth Zach i Ysgol Gyfun Gatholig Sant Richard Gwyn, Sir y Fflint, ac aeth ymlaen i’r coleg a chwblhau cyrsiau TG. Penderfynodd newid cyfeiriad a dilyn llwybr Ymarfer Corff a Ffitrwydd, gan lwyddo i gael cymhwyster Lefel 2.
Erbyn hyn mae’n gweithio fel Cymhorthydd Chwaraeon a Hamdden yn y coleg, a Chynghorydd Gwerthiannau a Ffitrwydd yng nghampfa Lifestyle Fitness, yng Nglannau Dyfrdwy. Bob wythnos mae’n croesawu dros 10 o bobl sydd ag anableddau sy’n cynnwys cyflyrau fel Syndrom Downs ac awtistiaeth ac mae wedi cynnal digwyddiadau gyda myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol o safle Llaneurgain Cambria.
“Cefais bersbectif hollol wahanol ar ôl i mi fynd i’r gampfa am y tro cyntaf, roeddwn i’n gwybod mai dyma oeddwn i eisiau ei wneud gyda fy mywyd,” meddai Zach.
“Gwnes i’n dda yn fy astudiaethau TG, ond pan ddechreuais i chwarae pêl-droed a chadw’n heini, roeddwn i eisiau gwneud rhagor, a helpu pobl eraill.
“Mae cael y swyddi yma mewn chwaraeon ac iechyd wedi rhoi hwb i mi, ac yn ystod y pandemig pan oedd popeth ar gau, gwnes i astudio cwrs ar-lein i gadw’n brysur.
“Gwnes i lawer o waith ymchwil i ymarfer corff ar gyfer pobl sydd ag anableddau ar ôl i’r gampfa fy annog i wneud hynny, a dwi wedi bod wrthi ers hynny.”
Ychwanegodd: “Gwnaethon ni gyflwyno rhagor o ymarferion a sesiynau sydd wedi’u seilio ar ddefnyddio cadeiriau, i bobl sydd â symudedd cyfyngedig, ac ymarferion eraill wedi’u teilwra ar gyfer anghenion pobl.
“Dwi’n credu bod unrhyw beth yn bosib, eich meddwl sy’n eich cyfyngu chi, ddim eich corff ac rydyn ni’n chwalu’r rhwystrau hynny gyda’n gilydd.”
Mae Emma Seath sef Goruchwyliwr Chwaraeon a Hamdden yn canmol Zach am fod mor benderfynol ac am gael agwedd gadarnhaol.
“Rydyn ni’n falch iawn o Zach, mae’n ysbrydoliaeth i bawb yma ac mae’n meddwl am syniadau newydd o hyd,” meddai hi.
“Mae ei sesiynau yma a’i sesiynau gyda’r dysgwyr SBA yn boblogaidd iawn ac mae’r grwpiau yn gwerthfawrogi ei ymdrechion i wneud ymarfer corff a ffitrwydd yn fwy hygyrch i bobl sydd ag anableddau. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl, yn enwedig ar ôl hunan ynysu yn ystod y cyfnod clo a thrwy gydol y pandemig.”
Mae Zach yn rhedwr brwd hefyd ac wedi cwblhau Hanner Marathon Caer am y tro cyntaf yn ddiweddar; mae’n bwriadu edrych ar hyfforddi ar-lein er mwyn i bobl sydd ag anableddau allu gwneud ymarfer corff yn gyfforddus ac yn ddiogel gartref.
Ychwanegodd: “Dwi’n cynllunio parhau gyda fy addysg os bydd y cyfle iawn yn codi a helpu pobl o bob oed ac anabledd yn fy swyddi presennol gyda’r coleg a Lifestyle Fitness.
“Dwi’n dweud wrth y grŵp; os mae eich meddwl yn gallu, rydych chi’n gallu ac i edrych ar y pethau cadarnhaol bob tro.
“Mae hynny’n cael ei ganmol bob tro, mae’r adborth wedi bod yn anhygoel.”
Ychwanegodd Denni Atkins, sef Rheolwr y Clwb yn Lifestyle Fitness: “Mae Zach yn unigryw ac mae ganddo agwedd gadarnhaol a chalon garedig. Cefais fy ysbrydoli ganddo’n syth gan fod gan fy chwaer barlys yr ymennydd ac mae hi’n gallu cyfyngu ei hun oherwydd ei hanabledd.
“Mae Zach yn fodel rôl perffaith ac yn ysbrydoliaeth i bobl fel hi, i brofi eu bod nhw’n gallu cyflawni unrhyw beth.
“Rydyn ni’n cydweithio i adeiladu’r platfform datblygu, dim ond y dechrau ydi hyn i Zach ac mi fyddwn ni’n ei gefnogi ar bob cam o’i daith.”
Am ragor o wybodaeth a newyddion gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk
Am ragor o wybodaeth am Lifestyle Fitness, ewch i www.lifestylefitness.co.uk