Cafodd Alan Lowry – sy’n gadael ei swydd fel Darlithydd Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus a Chydlynydd DofE yng Ngholeg Cambria yr haf hwn, ar ôl dros chwarter canrif gyda’r sefydliad – wahoddiad i ddathliad arbennig ym Mhalas Buckingham.
Ymunodd ag enillwyr gwobrau Aur o’r coleg, ac ar draws y wlad, ar gyfer digwyddiad ar thema gŵyl dan gadeiryddiaeth Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Edward, Dug Caeredin.
Ar ôl gwasanaethu ledled y byd gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig – gan gynnwys yr Almaen, Bosnia, Canada, a Kenya – gan godi i reng Swyddog Gwarant, symudodd Alan i faes addysg yn 1999.
Roedd yn “falch ac wrth ei fodd” o gael mynychu, ynghyd â’i wraig Rebeccah, ond mae’n mynnu y bydd yn gweld eisiau’r dysgwyr a’r staff yng Ngholeg Cambria, sydd â safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi.
“Ar ôl bod yn gysylltiedig â Gwobr Dug Caeredin am 37 mlynedd roedd yn anrhydedd enfawr bod yn y dathliad hwn,” meddai Alan.
“Rwyf wedi cael y fraint o gael fy ngwahodd ar ddau achlysur blaenorol i weld Gwobrau’n cael eu cyflwyno yn y Palas, ac unwaith eto roedd yn ddiwrnod gwych gyda channoedd o gyfranogwyr o bob cwr o’r wlad yn cael eu cydnabod am eu gwaith caled a’u hymroddiad.
“Anerchwyd y rhai oedd yn bresennol gan Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin cyn cyfarfod a siarad â rhai o’r derbynwyr, oedd yn wych.”
Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd bod yn gysylltiedig â’r Gwobrau, a gweld sut mae wedi caniatáu i bobl ifanc brofi pethau na fydden nhw efallai wedi eu profi pe baen nhw heb gymryd rhan.
“Mae wedi bod yn gyfle gwych i ddysgwyr ar draws pob safle roi cynnig ar bethau newydd a chymryd rhan yn y cymunedau lleol ehangach, gan godi llawer o arian ar gyfer eu helusennau dewisol yn y broses.
“Byddaf yn gweld eisiau hyn yn fawr, a’r coleg, ond rwy’n ymfalchïo’n fawr yn yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd dros y blynyddoedd.”
Y tri chynrychiolydd o Goleg Cambria i ennill gwobrau Aur oedd cyn-fyfyriwr o Laneurgain, Joe Smallwood, a chyn-ddysgwyr o Iâl, Hannah Skirton a Rafael Jeremy.
Cambria yw’r sefydliad Addysg Bellach gorau yng Nghymru o ran Gwobr Dug Caeredin, gyda bron i 300 o bobl ifanc yn ennill gwobrau Efydd, Arian neu Aur yn ystod y 18 mis diwethaf.
Un o gyn-fyfyrwyr y coleg yw Rebecca Kennelly, cyn Gyfarwyddwr Gweithredol DofE UK.
Canmolwyd Alan gan Reolwr Dysgwyr a Menter Cambria, Rona Griffiths, am helpu i newid bywydau dysgwyr ers troad y ganrif.
Meddai: “Diolch Alan am dy holl arweinyddiaeth, cefnogaeth ac ymrwymiad i gydweithwyr a myfyrwyr fel ei gilydd – ar draws yr holl safleoedd. Byddwn ni i gyd yn gweld dy eisiau’n fawr.”
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf o Goleg Cambria.
Am ragor o wybodaeth am Wobr Dug Caeredin, ewch i’r wefan: www.dofe.org.