Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

A CELEBRATION of education and diversity has gone from strength to strength in uniting communities across north east Wales

Llynedd cafodd grŵp Culture Collective ei lansio, myfyrwyr sy’n arwain y grŵp er mwyn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam.

Cafodd y digwyddiad diweddaraf ei gynnal yn Bwyty Iâl y coleg, ac roedd yn arddangos celf, dawns, cerddoriaeth, llenyddiaeth, barddoniaeth, a ffasiwn. Roedd y dysgwyr ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yn rhan o’r digwyddiad, a chafodd y coleg gyllid gan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i gynnal y digwyddiad.

Roedd dros 100 o bobl yn bresennol, a chawsant fwynhau sesiwn blasu te, gyda dewis o flasau o ystod eang o wledydd gan gynnwys Japan ac Algeria, a pherfformiad gan Fodel Rôl Syniadau Mawr Cymru Joseph George, sydd â gwreiddiau llwythol Nigeriaidd.

Daeth Joseph draw mewn gwisg draddodiadol, roedd yn chwarae drymiau ac yn canu caneuon gwladol. I ddilyn hynny gwnaeth Michal Borkowski sy’n fyfyriwr cerddoriaeth, chwarae offerynnau Hwngaraidd clasurol.

Mae Judith Alexander y Cydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth a Tim Feak y Prif Gaplan, wedi bod yn cynnal y rhaglen ac wrth eu bodd gyda’r ymateb hyd yn hyn.

“Wrth arddangos amrywiaeth diwylliannol, traddodiadau a diddordebau ein dysgwyr, mae’n magu parch ac yn ehangu ein dealltwriaeth o’n gwahaniaethau a’r pethau sydd gennym ni’n gyffredin,” meddai Judith.

“Rydyn ni’n ffodus iawn o gael cymuned mor amrywiol yn y coleg a’n bod ni’n gallu cynnig cyfleoedd fel hyn i ddod gyda’n gilydd ac ehangu ein persbectifau a’n profiadau trwy fwyd a chelfyddyd.”

Ychwanegodd Tim: “Roedd y digwyddiad yn arbennig iawn ac mae mor ysbrydoledig gweld dyfnder y sgiliau, angerdd, ac amrywiaeth sydd gennym ni yn ein coleg. Roedd gweld hyn yn cael ei ddathlu a’i arwain gan ein myfyrwyr yn hyfryd.”

I gael rhestr lawn o’r digwyddiadau sydd i ddod eleni, anfonwch e-bost at judith.alexander@cambria.ac.uk neu tim.feak@cambria.ac.uk.

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost