Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

A free family fun day celebrating the best of motors and music makes its return to Wrexham this summer

Bydd digwyddiad poblogaidd Olwynion Ffordd y Bers yn cael ei gynnal ar safle Ffordd y Bers Coleg Cambria o 10am-3pm ddydd Sadwrn 29 Mehefin.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys adloniant, arddangosfeydd, stondinau masnach, bwyd a lluniaeth a chasgliad o gerbydau anhygoel – o geir clasurol a beics, peiriannau pwerus i beiriannau milwrol – mae’r digwyddiad yma yn werth ei weld.

Gallai ymwelwyr fwynhau teithiau tywys o amgylch safle’r coleg, sy’n cynnwys y Sefydliad Technoleg sydd werth £10 miliwn, a cherddoriaeth gan rai o fandiau gorau’r rhanbarth.

Mae Karl Jackson, Arweinydd y Safle a Phennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg, yn gobeithio gweld llwythi o bobl yno ar y diwrnod.

“Bob blwyddyn mae Olwynion Ffordd y Bers yn dod yn fwy ag yn well, ac mae’r haf yma mae’n edrych fel mai fel yna fydd hi eto,” meddai.

“Mae’r digwyddiad yn canolbwyntio ar geir, beiciau modur, a rhoi tân arni, ond mae hefyd wedi dod yn boblogaidd yn yr ardal leol, gan ddod â’r gymuned at ei gilydd i ddathlu gyda cherddoriaeth, bwyd a lluniaeth bendigedig.

“Ac mae’n rhad ac am ddim, felly rydyn ni’n gobeithio gweld mwy o bobl yma nag erioed.”

Ychwanegodd Karl: “Dyma’r pedwerydd digwyddiad, ac mae gennym ni fwy o geir, stondinau, a cherddoriaeth a dewis eang o gerbydau deniadol, felly mae yna rywbeth at ddant pawb – croesi bysedd am ychydig o heulwen!”

Mae parcio am ddim ar y safle. I gael rhagor o wybodaeth neu i gadw lle ar gyfer stondin yn nigwyddiad Olwynion Ffordd y Bers, anfonwch e-bost at karl.jackson@cambria.ac.uk neu ffoniwch 01978 267809.

I gofrestru am eich tocyn am ddim, ewch i Digwyddiad Olwynion Ffordd y Bers yng Ngholeg Cambria.

Ewch www.cambria.ac.uk i ddarganfod rhagor am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost