Bydd Sion Hughes yn cystadlu yn y categori Uwch Gogydd yn Her y Cogyddion Byd-eang yn Singapore yn ddiweddarach y mis hwn.
Ar hyn o bryd mae Sion, o Wrecsam, yn astudio ar gyfer cymhwyster Coginio Proffesiynol Lefel 3 Dysgu yn y Gwaith gyda’r coleg yn ogystal â’i rôl fel Prif Gogydd Sba ym Mharc Carden, ger Caer.
Bydd yr ornest yn cael ei chynnal dros bedwar diwrnod o 22 Hydref yn y Ganolfan Expo lle bydd yn cystadlu yn erbyn 15 o’r cogyddion gorau ar y blaned.
Wrth baratoi, mae Sion – yr unig gynrychiolydd o’r DU – wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r cogydd gweithredol arobryn, Graham Tinsley, sy’n gystadleuydd profiadol ac wedi cystadlu mewn pum o Gemau Olympaidd Coginio a phum Cystadleuaeth Coginio Cwpan y Byd.
Roedd Anwen Regan, Ymarferydd Arlwyo a Lletygarwch yn Cambria, yn dymuno’n dda i Sion yn y gystadleuaeth.
“Mae Sion yn glod iddo’i hun a’r coleg, mae’n hynod o dalentog ac mae ei alluoedd yn rhagori ar ofynion y cwrs yn barod, gan ddangos ei angerdd am dwf parhaus yn ei grefft,” meddai.
“Mae’r cyfle hwn yn garreg filltir enfawr yn ei yrfa, gan ddangos nid yn unig ei sgil ond ei botensial i gael effaith barhaol yn y byd coginio – rydyn ni’n dymuno pob lwc iddo.”
Sicrhaodd Sion ei le yn y rowndiau terfynol trwy ragori yng ngemau rhanbarthol Ewrop yn yr Eidal y llynedd.
Yn Singapore, bydd yn gyfrifol am greu bwydlen pedwar cwrs, pob dysgl yn arddangos ei greadigrwydd a’i sgiliau.
Dywedodd llefarydd ar ran Parc Carden: “Rydyn ni’n hynod falch o Sion ac yn dymuno’r gorau iddo wrth iddo gychwyn ar y daith gyffrous hon i Singapore.”
Ychwanegodd Sion: “Rydyn ni wedi gweithio’n ddiflino i geisio cyflwyno’r fwydlen orau posib, a gyda Singapore rownd y gornel, mae’r cyffro wir yn dechrau cynyddu!
“Mae’n anrhydedd gwirioneddol i mi allu cynrychioli fy ngwlad ar lwyfan y byd a dwi’n gobeithio dod â chanlyniad gwych adref.”
Am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk a’u dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.