Background Splash

Gan adrian

FaithDodd-1

Bydd Faith Dodd yn dechrau ei gradd mewn Archaeoleg Glasurol a Gwareiddiad Clasurol yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) o fis Medi.

Mae Faith sy’n 19 oed, o Wrecsam, wedi cwblhau cymwysterau mewn Drama, y Cyfryngau, Gwareiddiad Clasurol a Bioleg yng Ngholeg Cambria Iâl.

Cafodd ei henwi’n Ohebydd Ifanc y Flwyddyn 2021 BBC Cymru ar ôl iddi hi a’i thad Matthew ffilmio ei thaith gyda OCD. Mae’r fideo wedi cael ei wylio dros 120,000 o weithiau ar dudalen Facebook y sefydliad.

Mae Faith yn edrych ymlaen at gynrychioli’r ddinas yng nghystadleuaeth Miss Teen GB. Mae’r coleg yn noddi ei lle yn y gystadleuaeth.

Wrth edrych ymlaen at y bennod nesaf yn ei bywyd ar ôl 12 mis gwyllt, dywedodd cyn-ddisgybl Ysgol y Grango: “Dwi’n gyffrous iawn – ac yn ofnus – i gael lle mewn sefydliad mor fawreddog yn Llundain a dwi’n ddiolchgar am y cyfle.

“UCL ydi fy mhrifysgol ddelfrydol er fy mod i wedi cael cynigion o leoedd eraill yn y DU, roeddwn i’n bendant fy mod i am astudio yno.”

Ychwanegodd hi: “Gwnes i ysgol haf gyda The Sutton Trust a Phrifysgol Caergrawnt yn ystod yr haf y llynedd. Mae hynny wedi fy helpu i benderfynu mai archaeoleg ydi’r llwybr iawn i mi. Yna ym mis Medi treuliais wythnos yn gwirfoddoli yng nghloddfa Rufeinig yr Orsedd gydag Amgueddfa Wrecsam a Phrifysgol Caer.

“Dydw i ddim yn siŵr i ble bydd y pwnc yn mynd â fi, ond dwi’n hapus i weithio mewn unrhyw beth sy’n ymwneud â threftadaeth, cadwraeth, academia neu waith maes. Dwi am weld beth fydd yn dod yn y dyfodol, dwi’n edrych ymlaen yn arw at ddechrau arni.”

Wrth adlewyrchu ar y wobr BBC, roedd Faith wrth ei bodd i gael y teitl mawreddog ac mae hi’n hapus i allu rhannu ei stori gyda chymaint o bobl, ers iddi gael OCD heb ei ddiagnosio am o leiaf pum mlynedd yn flaenorol.

Mae hi’n diolch i staff a myfyrwyr Cambria am eu cefnogaeth, mae hi’n clodfori ei thad, ei mam Donna-Marie a’i chwaer Evie am fod yn gadarnhaol ac am ei hannog hi o hyd.

“Yn bendant mi wnâi barhau i ysgrifennu a rhannu fy stori, yn enwedig ar gyfer y nifer fawr o bobl ifanc ledled y wlad a allai fod yn mynd trwy’r un peth – mae’n helpu i wybod bod eraill yno i chi ac yn gallu helpu.”

Gallwch wylio taith OCD Faith yma: www.bbc.co.uk/news/uk-wales-56428411

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost