Mae Matt Edwards, o Wrecsam, yn Ymarferydd blaenllaw Dysgu yn y Gwaith ar gyfer Cigyddiaeth Coleg Cambria.
Mae Matt wedi ennill medal aur yng nghystadleuaeth WorldSkills UK, dechreuodd ei yrfa yn 14 oed mewn siop gigydd leol, cyn symud ymlaen i ddod yn brentis mewn siopau sydd wedi ennill gwobrau gan gynnwys Siop Fferm Swans, Treuddyn, Jones’s Butchers yn Llangollen, a gyda Steve Vaughan ym Mhenyffordd.
Erbyn hyn mae ar ochr arall y cownter, yn cynorthwyo’r rhai newydd yn y sector, gan gynnwys Adam Jones, sydd wedi dilyn ei ôl troed wrth gael ei enwi’n Gigydd Cymraeg y Flwyddyn wrth fod yn brentis Cambria a gweithio yn Swans.
Mae Matt yn llysgennad Ysbrydoliaeth Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru ac eisiau hyrwyddo’r grefft trwy gystadlaethau ac ymweld ag ysgolion i arddangos buddion ymuno â phroffesiwn lle mae galw cynyddol am ymgeiswyr medrus.
“Dwi’n mynd allan i weld y dysgwyr yn y gweithle, dwi’n gwneud arsylwadau ac asesiadau ac yn eu harwain nhw tuag at yrfa mewn cigyddiaeth yn y pendraw,” meddai Matt.
“Mae gennym ni dros 100 o ddysgwyr gweithgynhyrchu bwyd ar draws Gogledd Cymru ac mae’r niferoedd yn tyfu ond mae lle i ragor, mae’r galw yno yn y rhanbarth yma a thu hwnt – mae galw o hyd am ragor o brentisiaid ers tipyn o amser erbyn hyn.
“Yn ogystal â datblygu’r genhedlaeth nesaf o gigyddion rydyn ni’n hyrwyddo a dathlu cynnyrch Cymraeg a’r sector lletygarwch, cydweithio er mwyn bodloni’r prinder mewn sgiliau, oherwydd mae wir angen mynd i’r afael â hynny.”
Mae adroddiadau gan The British Meat Processors Association yn cadarnhau’r sylwadau hynny, gan ddatgelu bod y diwydiant yn wynebu prinder llafur a sgiliau critigol – a hynny wedi’i waethygu gan Brexit.
Yn ogystal â gweithio, bydd y rhai sy’n mynd i’r afael â phrentisiaeth cigyddiaeth yn astudio un o nifer o gymwysterau yn y coleg – Diploma ar gyfer Hyfedredd mewn Cigyddiaeth a Phrosesu Cig, Diploma ar gyfer Hyfedredd mewn Arwain Tîm yn y Diwydiant Bwyd, Diploma ar gyfer Hyfedredd mewn Cigyddiaeth Uwch a Phrosesu Cig, a rhagor.
“Mae’n wych gweithio yn y maes yma, dyma pam mae Coleg Cambria yn gwneud ei orau i greu cigyddion ifanc dawnus a gobeithio annog rhagor o bobl i fynd ymlaen i ddewis gyrfa yn y diwydiant yma yn y dyfodol,” meddai Matt, sy’n cynllunio cystadlu yn The World Butchers Challenge – sydd wedi’i enwi fel ‘Gemau Olympaidd Cig’ – am yr ail waith pan fydd y gystadleuaeth yn dychwelyd yn 2024.
“Mae ein cyrsiau yn helpu gyda’u datblygiad ac yn sicrhau eu bod ar flaen y newidiadau yn y sector, ac mae’r cystadlaethau yn ffordd wych i berfformio ar lwyfan fawr a thynnu sylw at y busnes maen nhw’n ei gynrychioli.
“Yn dilyn llwyddiant Adam yng nghystadleuaeth Cigydd Cymraeg y Flwyddyn – ac Elenko Marinov, a ddaeth yn drydydd – mae Cambria yn esiampl o ragoriaeth ac yn lle i ddysgu wrth fireinio sgiliau yn y gweithle.
“O’m safbwynt i mae’n anrhydedd annog y ddawn yma a dwi’n edrych ymlaen at helpu i ddod â rhagor o bobl ifanc i’r diwydiant i sicrhau bod cigyddiaeth yn parhau i fod yn opsiwn gyrfa deniadol, cynaliadwy am lawer o flynyddoedd i ddod.”
Ychwanegodd Rheolwr Dysgu yn y Gwaith, Kate Muddiman: “Mae’r coleg wedi gweithio’n galed gyda Llywodraeth Cymru, grwpiau rhanddeiliaid a’r corff dyfarnu FDQ i ddatblygu’r ddau gymhwyster newydd yma mewn cigyddiaeth a phrosesu cig i sicrhau eu bod yn fwy addas ar gyfer y sector a’r dyletswyddau gwahanol sydd yn y diwydiant.
“Mae arbenigedd a brwdfrydedd Matt wedi galluogi ei fod wedi gallu dod â’r cymwysterau yma i flaen y diwydiant, gan ddylanwadu ar gigyddion ifanc i ddatblygu eu gyrfaoedd yn ogystal â chymryd rhan mewn cystadlaethau cigyddiaeth, cynrychioli Cymru ac arddangos y sgiliau sydd ganddyn nhw.
“Mae ei arbenigedd a’i arddangosiadau yn boblogaidd iawn, mae wedi dod yn adnabyddus yn yr ardal leol!”
Ewch i www.cambria.ac.uk i weld gwybodaeth a’r newyddion diweddaraf gan Goleg Cambria.