main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

DanCambria1

Mae Coleg Cambria wedi cyflwyno peiriant didoli o’r radd flaenaf a llwyfan Robot Cyffredinol Awtonomaidd gyda rhyngwyneb ER Flex i’w safle Glannau Dyfrdwy.

Cafodd yr offer ei ariannu gan Medru, prosiect ar y cyd rhwng Cambria, Prifysgol Bangor a’r Brifysgol Agored yng Nghymru, wedi’i gefnogi gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Dywedodd Dan Jones, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Peirianneg Uwch, bydd y peiriant o werth i fyfyrwyr a’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant yn barod, prentisiaid neu weithwyr sydd eisiau uwchsgilio.

“Mae’r dechnoleg yn arbennig, ac mi fydd y peiriant didoli yn arbennig yn hanfodol ar gyfer helpu i addysgu grwpiau o ddysgwyr,” meddai Dan, o Brestatyn. Cyn dychwelyd i’r byd academaidd treuliodd dros ugain mlynedd yn y Lluoedd Arfog fel Peiriannydd Systemau Rheoli Milwrol cyn gweithio fel Rheolwr Peirianneg mewn diwydiant lleol.

“Mae system y peiriant yn berthnasol i ystod eang o themâu o iechyd a diogelwch a thechnoleg synhwyrydd diwydiannol i gyflyru systemau monitro a chynnal a chadw a thrwsio.

“Mae modd ail-greu senarios sy’n codi wrth weithio mewn ffatri yma yn y coleg, mae’n ychwanegiad gwych i’n hoffer ni ac yn fuddsoddiad sylweddol gan Medru, rydyn ni mor ddiolchgar.”

Mae’r peiriant didoli diwydiannol – wedi’i adeiladu gan gwmni Almaeneg, Gunt – yn gallu efelychu gwahanol ganlyniadau a phrosesau, gan rannu eitemau yn ôl lliw, maint, deunydd, pwysau, a chategorïau eraill.

Mae’r peiriant yn cael ei reoli gan sgrin cyffwrdd, a modd gweithredu a modd hyfforddi ar gael.

Mae’r modd hyfforddi yn cael ei ddefnyddio i efelychu amser – a gwaith cynnal a chadw wedi’i reoli gan synhwyrydd ac mae rhyngwyneb realiti estynedig ar gyfer teclynnau symudol sy’n cynnig swyddogaethau ychwanegol helaeth, fel arddangos golygon taenedig a thaflenni data.

Mae’r broses yn defnyddio dylunio agored fel bod yr holl gydrannau yn hygyrch. Mae offer diogelwch helaeth, megis rhwystrau golau mewn ardaloedd perygl hygyrch, yn sicrhau gweithrediad diogel. Ar gyfer tynnu a gosod yr unedau gêr, mae gan y peiriant graen y gellir ei osod mewn tri safle gwahanol.

Bydd defnyddwyr yn datblygu eu sgiliau llaw ymhellach, a dywedodd Dan eu bod nhw’n gallu creu problemau i ddysgwyr eu hadnabod a’u datrys, fel y byddai’n rhaid iddyn nhw wneud mewn lleoliad gwaith yn y byd go iawn.

“Mae canfod diffygion ar systemau awtomataidd yn rhywbeth sydd ddim yn cael ei hyfforddi’n aml, mae’n adweithiol ac yn dod gyda phrofiad, felly mae gallu paratoi timau cynnal a chadw i ragweld unrhyw broblemau’n well yn bwynt gwerthu unigryw mawr,” ychwanegodd.

“Rydyn ni wedi ymateb cadarnhaol yng ngogledd ddwyrain Cymru yn barod a hoffem ni gydweithio â busnesau lleol i brofi’r peiriant yma ymhellach, fel y gellir ei deilwra i unrhyw amgylchedd.

“I ddechrau, bydd ein dysgwyr rhan-amser yn ei ddefnyddio ond yn y pen draw bydd yn dod yn ganolbwynt i’n myfyrwyr Lefel 3 a Lefel 4 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch.

“Rydyn ni eisiau i’r cwricwlwm yma gyd-fynd â’r hyn sy’n digwydd allan yna yn y sector, felly mae ein dysgwyr yn barod ar gyfer byd gwaith ac wedi cael eu hyfforddi gan ddefnyddio technoleg berthnasol ar ôl gadael y coleg.

“Roedden ni eisoes yn enwog am hynny, a gyda’r ychwanegiad yma at ein cyfleuster mae’n cynyddu ein safle ymhellach mewn diwydiant lleol.”

Nod Medru yw rhoi cyfle i ddysgwyr gyflawni sgiliau technegol gwerthfawr a gwybodaeth Diwydiant 4.0 a darparu hyfforddiant ar draws gogledd ddwyrain Cymru, gan greu cyflenwad o bobl ddawnus ar gyfer y dyfodol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost