Mae Grace Mead, o Gei Connah, wrth ei bodd gyda’i graddau sef A* mewn Seicoleg, A mewn Bioleg, A mewn Cemeg a B mewn Mathemateg.
Bydd y ferch 18 oed yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ar ôl treulio dwy flynedd yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy.
“Fy mreuddwyd ydi bod yn ddoctor a gweithio mewn llawfeddygaeth, dyna beth dwi eisiau ei wneud yn y pendraw,” meddai Grace, cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Cei Connah.
“Mae fy nheulu wrth eu bodd, a dwi mor gyffrous i dreulio’r chwe blynedd nesaf yno.”
Yn ystod ei dwy flynedd yn Cambria, gwnaeth Grace gwblhau lleoliadau gwaith gyda’r GIG yn Ysbyty Maelor Wrecsam, yn y fferyllfa a wardiau gwahanol.
“Roedd yn brofiad bendigedig, roedd fy nghyfnod yn y coleg yn wych hefyd, felly hoffwn i ddiolch i’r holl staff a’r darlithwyr am eu cefnogaeth,” ychwanegodd Grace.
Ewch i www.cambria.ac.uk a dilynwch Goleg Cambria ar gyfryngau cymdeithasol i weld rhagor am ganlyniadau Safon Uwch eleni.