Daeth dysgwyr Cymraeg sy’n cynrychioli Coleg Cambria yn fuddugol yn y Gystadleuaeth Côr Dysgwyr Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddar a gafodd ei chynnal ym Moduan, Gwynedd.
Ymysg y caneuon a gafodd eu perfformio gan Gôr Cambria oedd emyn poblogaidd, Calon Lan.
Bu Tim Heeley, darlithydd Cerddoriaeth yn y coleg yn llongyfarch y grŵp am eu cyflawniad.
“Ar ôl dysgu Cymraeg fel oedolyn fy hun, roedd cystadlu yn yr Eisteddfod yn hanfodol i mi ddatblygu dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru, yn ogystal â chael y cyfle i ddefnyddio’r iaith,” meddai Tim.
“Roedd dod â chriw o oedolion sy’n dysgu Cymraeg at ei gilydd a rhannu’r daith yn gymaint o hwyl, gan fod rhai ohonynt bron yn rhugl, a rhai newydd symud i Gymru a chanu ym Moduan oedd eu profiad cyntaf o’r iaith.”
Ychwanegodd: “Ar ôl ychydig o anogaeth – roedd nifer o’r côr yn nerfus am y profiad – dwi’n meddwl efallai eu bod nhw wedi gwirioni ar yr Eisteddfod rŵan ac eisiau ei wneud eto!
“Gobeithio y bydd yn helpu i’w hysgogi nhw i barhau i ddefnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg – llongyfarchiadau i chi gyd.”
Daeth eu safle cyntaf i’r brig ar ôl i fyfyriwr Iâl Cambria, Rufus Edwards o Ffordd y Bers, ennill y Rhuban Glas Offerynnol ychydig ddyddiau cyn iddo ennill A* mewn Cerddoriaeth a Gwleidyddiaeth, ac A mewn Llenyddiaeth Saesneg Safon Uwch, gan sicrhau lle i ddechrau gradd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.