Mae’r coridor bywyd gwyllt a’r ardd lesiant newydd yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy wedi derbyn gwobr yn y categori Busnes yng ngwobrau agoriadol Bionet, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno.
Canmolwyd y coleg gan Bionet, y bartneriaeth natur leol ar gyfer gogledd ddwyrain Cymru, am greu ardal fioamrywiol sy’n cynnwys dros 2000 o fylbiau cynhenid, coed ffrwythau, gwrychoedd, blychau adar, ystlumod a gwrychflychau, a noddfa lle gall myfyrwyr, staff a’r gymuned wella eu hiechyd a’u llesiant.
Dechreuodd y cymhorthydd Brian Valentine a chriw o ddysgwyr Twf Swyddi Cymru+, staff ac aelodau o’r Construction Training Academy weithio ar y safle 40 metr sgwâr 12 mis yn ôl fel rhan o brosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cadwch Gymru’n Daclus.
Roedd wrth ei fodd eu bod wedi cael eu cydnabod gyda’r anrhydedd hon a dywedodd: “Mae ennill y wobr hon lai na 12 mis ar ôl i’r ardd a’r coridor bywyd gwyllt agor yn anrhydedd enfawr i ni.
“Gan ei fod yn brosiect byw, bydd yn parhau i esblygu a thyfu, ond mae hyn yn rhoi llwyfan i ni wneud hyd yn oed mwy yn y blynyddoedd i ddod.
“Bydd adrannau eraill a’r coleg cyfan yn elwa o’r fenter hon yn y tymor hir gan ein bod ni wedi cynnwys datblygu a chynnal y safle yn amserlen ein dosbarth, gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid fel Cadw Cymru’n Daclus a busnesau lleol.
“Mae elfennau eraill i hyn, ac yn y dyfodol byddwn yn defnyddio’r ardd ar gyfer sesiynau llesiant – gan gynnwys ymarfer corff a gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar – felly bydd yn cael hyd yn oed mwy o effaith.”
Dywedodd Samantha Moore, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Cambria ar gyfer Twf Swyddi Cymru: “Mae Coleg Cambria yn ymfalchïo yn egwyddorion cydberthynas, cynaliadwyedd, yr amgylchedd ac addysg ac felly mae cael ein cydnabod am hynny yn wych. Rydw i mor falch o holl waith caled Brian a thîm Twf Swyddi Cymru+ i gyd am gael y wobr hynod haeddiannol hon.”
Roedd Gwobrau Bionet yn cynnwys wyth categori gan gynnwys gwobrau i ysgolion uwchradd, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, ysgolion cynradd a chynghorau tref neu gymuned.
Ychwanegodd llefarydd: “Mae Bionet yn credu ei bod yn bwysig dathlu llwyddiannau a gyflawnwyd am fioamrywiaeth. Yn wyneb yr argyfwng ecolegol, mae llawer o’r newyddion a glywn yn cynnwys naratif negyddol, ond mae llawer o bobl yn cael effaith gadarnhaol drwy weithredu’n lleol, gan gynnwys Brian a thîm Coleg Cambria.
“Roedden nhw’n llawn haeddu’r wobr, ac rydym yn dymuno’n dda iddyn nhw wrth i’r prosiect fynd rhagddo.”
Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth diweddaraf o Goleg Cambria.