Mae Geraint Ellis, o Borthmadog, wedi ennill y Wobr Cwmni Lifrai ar gyfer dysgwyr a thiwtoriaid neilltuol
sydd wedi cyflawni cymwysterau City & Guilds.
Bellach yn Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith mewn Garddwriaeth, Cadwraeth Amgylcheddol a Choed a
Phren yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy, cafodd ei ddewis gan Gwmni Anrhydeddus y Garddwyr i
dderbyn y teitl mewn seremoni a gynhaliwyd ym Mansion House, Llundain.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Eifionydd, mae Geraint wedi rhagori mewn Diploma Lefel 2 mewn Garddwriaeth a
symud ymlaen i Lefel 3 wrth fod yn geidwad griniau Clwb Golff Porthmadog.
Yn gynt yn gweithio fel gwyddonydd biofeddygol arbenigol i’r GIG cyn penderfynu newid cyfeiriad i feithrin
sgiliau yn sector y tir, dywedodd: “Dwi wedi mwynhau fy ngwaith fel ceidwad griniau ac fe wnes i
ymddiddori’n syth mewn arferion cynaliadwy a glaswellt brodorol.
“Yn gynnar yn fy ngyrfa, cefais fy ysbrydoli i ddod i’r maes addysg gan fy nhiwtor, Maria Thwaite, lle
gallwn i roi rhywbeth yn ôl i’r diwydiant.”
Ychwanegodd Geraint: “Mae bob diwrnod yng Ngholeg Cambria yn hollol wahanol, dwi’n gweithio mewn
ardal ddaearyddol eang o Southport i dde Cymru a dwi’n cysylltu â dysgwyr ar-lein ac wyneb yn wyneb.
“Dwi’n falch o fod yn rhan o dîm mor wych ac ymroddedig a diolch i fy rheolwr Kate Muddiman a’r tîm
cyfan am fy nghroesawu i, a chefnogi fy hyfforddiant a chwblhau fy nghymwysterau asesu.
“Mae garddwriaeth yn ddisgyblaeth sy’n newid o hyd, gyda datblygiadau cyffrous. Yn bendant, byddwn i’n
annog dysgwyr i ddod i’r diwydiant gan fod y gyrfaoedd sydd ar gael yn foddhaus ac yn werth chweil.
“Dwi hefyd yn credu fod garddwriaeth a chadwraeth yn rhan o’r ateb i’r argyfwng hinsawdd rydyn ni’n ei
brofi sydd ar hyn o bryd.”
Fe wnaeth Kate Muddiman, Rheolwr Dysgu yn y Gwaith yng Ngholeg Cambria, longyfarch Geraint gan
ddweud: “Mae o rŵan yn cefnogi pobl eraill i gyflawni eu cymwysterau, ac mae wedi rhagori yn y swydd
hon.
“Mae Geraint yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr a chyd-weithwyr, ac mae ganddo bob amser agwedd
ragweithiol, gan hyrwyddo datblygiad a chynaliadwyedd yn sector y tir.”
Ychwanegodd John Gilbert, Meistr, Cwmni Anrhydeddus Garddwyr Llundain: “Roedden ni’n falch o gael
enwebu Geraint ar gyfer Gwobr Lifrai City & Guilds.
“Mae ei ymrwymiad i ffermio cynaliadwy i’w ganmol yn fawr, ac mae’r gwaith mae’n ei wneud yr union
beth sydd ei angen arnom ni os ydyn ni am fynd i’r afael â heriau newid yn yr hinsawdd a cholli
bioamrywiaeth.
“Mae ei frwdfrydedd yn heintus ac yn ysbrydoledig, ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddo.”
I gael y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf o Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.
Llun o’r chwith i’r dde: John Gilbert, Meistr, Cwmni Anrhydeddus Garddwyr Llundain, y Gwir
Anrhydeddus Arglwydd Faer Henadur Nicholas Lyons a Phrif Weithredwr Grŵp City & Guilds
Kirstie Donnelly MBE gyda Geraint Ellis.