Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Enillodd Oliver Bolland y fedal aur yng nghategori Gwaith Llenfetel WorldSkills UK, ar ôl ennill y fedal efydd yn yr un digwyddiad dair blynedd ynghynt.

Bellach yn gweithio yn MG Engineering yn y Fflint, mae’r dyn 22 oed – sy’n gyn-fyfyriwr Gwneuthuro a Weldio yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy – yn gobeithio y gall y prentisiaid Owen Fricker a James Jones efelychu ei lwyddiant yn y blynyddoedd i ddod.

Hefyd yn enillydd blaenorol yng nghystadleuaeth Gwaith Metel Adeiladu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, mae Oliver yn helpu’r ddau o Sir y Fflint, ill dau yn fyfyrwyr yn y coleg, wrth iddynt ddechrau cystadlu yn y gobaith o fod yn rhan o’u carfan WorldSkills UK yr hydref hwn.

Gan gyfaddef bod marwolaeth ei Dad XX wedi ei daro’n galed pan gyrhaeddodd y rowndiau terfynol am y tro cyntaf yn 2019, mae’r cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Richard Gwyn yn mwynhau bywyd ac yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair gyda’r cwmni, sydd wedi bod yn darparu datrysiadau peirianyddol i sawl sector ers 30 mlynedd.

“Mae’n wych gweld Owen a James yn dechrau eu hyfforddiant ar gyfer y cystadlaethau sgiliau, rwy’n siŵr y byddan nhw’n gwneud yn dda iawn,” meddai Oliver, o Gei Connah.

“Ar ôl ennill yn yr ornest sgiliau Cymru, cafodd fy mherfformiad yn WorldSkills ei effeithio gan farwolaeth Dad, ac roeddwn i wastad yn gobeithio y byddwn i’n cael cyfle arall i gystadlu er mwyn gwneud cyfiawnder â mi fy hun.

“Yna fe wnaeth Covid-19 daro’r DU ac roeddwn i’n meddwl bod y cyfle wedi’i golli; roedd gallu cystadlu eto yn 2021 yn syndod mawr, ac roeddwn i wrth fy modd pan enillais y fedal aur i fy nheulu.”

Ychwanegodd: “Mae’n sefyllfa ddwys gan fod y rowndiau terfynol yn cael eu cynnal dros dridiau a gall pwysau’r amgylchedd hwnnw ddweud arnoch chi, ond fe wnes i lwyddo i ymlacio a bwrw ’mlaen â’r dasg dan sylw.

“Os gallwch chi gadw’ch pen ac anghofio bron am y beirniaid, gwneud eich gwaith a dal i ganolbwyntio, fe allwch chi lwyddo, fel y gwnes i.”

Gan ddiolch i Cambria, ac i’r darlithydd Tony Commins yn arbennig am ei helpu i sicrhau lleoliadau gwaith a swydd llawn amser yn y diwydiant yn y pen draw, dywedodd Oliver:

“Rwy’n ddyledus iawn i Tony, roedd o’n credu ynof i a rŵan rwy’ mewn swydd rwy’n ei charu – dyma’r peth gorau i mi’i wneud erioed.

“Mae’r galw wedi cynyddu, ac rwy’ wedi teithio dros y byd i gyd yn ystod y pandemig, yn gosod y cynnyrch yr ydyn ni’n ei weithgynhyrchu yn yr Unol Daleithiau, Canada, yr Almaen a’r Ffindir, gan ein bod ni’n gweithio mewn maes hanfodol.

“Fy nod i rŵan yw cefnogi prentisiaid eraill a defnyddio popeth wnes i ei ddysgu yn Cambria ac wrth gystadlu i barhau i wella fel rhan o’r tîm yma. Mae gen i atgofion melys o WorldSkills a byddaf yn annog pobl ifanc eraill i roi cynnig arni.”

Mae Owen, sy’n 17 oed o Gaerwys, a James, sy’n 16 oed o Fagillt, hefyd yn awyddus i fireinio eu sgiliau.

Yn ôl Tony, mae ganddyn nhw’r gallu i fynd yn bell.

“Fel Oliver, mae ganddyn nhw agwedd gadarnhaol ac awydd i ddysgu, sy’n allweddol i wneud yn dda yn y cystadlaethau hyn ac yn academaidd,” ychwanegodd.

“Mae Oliver yn ysbrydoliaeth fawr iddyn nhw ac i lawer o’n dysgwyr oherwydd ei fod wedi dangos, os rhowch chi’ch meddwl arni a gweithio’n galed, y gallwch chi wneud unrhyw beth.

“Rydyn ni i gyd mor falch o’i gyflawniadau ac yn dymuno’n dda iddo yn y dyfodol.”

Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria.

Am ragor o wybodaeth am WorldSkills UK, ewch i’r wefan: www.worldskillsuk.org

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost