Aeth Dirprwy Weinidog y Bartneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn – AS ar gyfer Delyn – i ymweld â safle Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam i gyfarfod â Yana Williams Prif Weithredwr y coleg i drafod prosiect peilot Llywodraeth Cymru sy’n cael ei gynnal yn y sefydliad yn y Gogledd Ddwyrain.
Mae’r coleg – sydd â safleoedd yn Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy, Ffordd y Bers a Llysfasi – yn cyflogi hyd at 1,000 o weithwyr llawn amser a rhan amser ac mae ganddo ei ddiwylliant ei hun o Bartneriaeth Gymdeithasol, sy’n sicrhau cyn i’r coleg wneud unrhyw ddewisiadau neu newidiadau mawr, bod rhywun sy’n cynrychioli budd y bobl sy’n gysylltiedig wedi gallu darparu gwybodaeth am sut y bydd hynny yn eu heffeithio nhw, ac yn herio canlyniadau.
Cafodd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ei lansio llynedd gan Mrs Blythyn, ei nod yw gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru drwy wreiddio egwyddor partneriaeth gymdeithasol yng ngweithrediad cyrff cyhoeddus ledled y wlad.
Dywed Ms Williams bod cynhwysiant a thryloywder yn hanfodol er mwyn i dimau ar draws y sefydliad deimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn gallu codi safonau ar y cyd.
Ychwanegodd hi: “Mae rhoi llais blaenllaw i weithwyr wrth wneud penderfyniadau strategol yn helpu rheolwyr i wneud penderfyniadau o ansawdd uwch, mwy effeithiol.
“Wrth weithio gyda’n gilydd mewn ysbryd o gydweithredu byddwn yn datblygu rhagor fel coleg, mewn partneriaeth â’n cymuned a rhanddeiliaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus.
“Roedd yn anrhydedd i ni allu mynd i’r afael â hyn a bod yn rhan o’r rhaglen beilot ac rydyn ni wedi gweld llawer o fanteision, i’r tîm arwain, staff ac yn y pen draw ein dysgwyr.”
Mae gweithwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan yn rhagor yn y broses o wneud penderfyniadau ac ymgysylltu â chynrychiolwyr undebau. Mae gwybodaeth yn cael ei rhannu trwy fewnrwyd Cambria a sianeli cyfathrebu mewnol.
Dyfyniad gan arweinydd Partneriaeth Gymdeithasol Cambria, David Schwarz: Fel cynrychiolydd undeb llafur, mae sicrhau amodau gwaith a sefydlogrwydd i’r holl gydweithwyr yn brif flaenoriaeth.
Mae Partneriaeth Gymdeithasol yn ein symud tuag at hyn wrth alluogi i bob persbectif gael ei ystyried, ac mae’n gadarnhaol iawn gweld y coleg yn cefnogi hyn wrth roi’r amser i gynrychiolwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i hyn ddigwydd.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Bartneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn: “Roedd hi’n wych cael dysgu rhagor am y gwaith blaengar sy’n cael ei wneud yng Ngholeg Cambria a chael gweld sut y maen nhw’n croesawu’r dull partneriaeth gymdeithasol a’i roi ar waith.
“Mae’n bwysig bod y gweithlu yn gallu cyrchu cynrychiolaeth ar y cyd, ond mae buddion ehangach wrth i weithwyr allu cael dylanwad ar y penderfyniadau sy’n eu heffeithio nhw a chael y cyfle i gymryd rhan yn y broses o wneud y penderfyniadau hynny hefyd.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru a hyrwyddo manteision aelodaeth Undeb Llafur. Dwi’n edrych ymlaen at glywed sut mae’r gwaith yng Ngholeg Cambria yn datblygu.”
Ychwanegodd Ms Williams: “Mae’r prosiect yma yn barhaus ac mae cynrychiolaeth cadarn gweithwyr yn allweddol i warchod a pharhau i wella amodau gwaith i staff ar draws holl safleoedd y coleg dros y blynyddoedd sydd i ddod.”
Er mwyn darganfod rhagor am Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), ewch i: https://www.llyw.cymru/bil-partneriaeth-gymdeithasol-chaffael-cyhoeddus-cymru
Ewch i www.cambria.ac.uk i weld rhagor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria.